Ymchwiliad i lofruddiaeth wedi ymosodiad ger clwb nos
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn y ddalfa ar ddrwgdybiaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn arall farw yn dilyn ymosodiad y tu allan i glwb nos yng Nghastell-nedd.
Aed â dyn 47 oed i'r ysbyty yn dilyn ymosodiad ar Stryd Commercial am 00:50 fore Gwener, ond daeth cadarnhad gan Heddlu De Cymru fore Sadwrn ei fod wedi marw.
Mae dyn 34 oed yn parhau yn y ddalfa ac mae'r heddlu yn apelio i'r cyhoedd am wybodaeth.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Lewis: "Mae'r digwyddiad wedi datblygu'n drasig dros nos ac rydym ni nawr yn trin yr achos hwn fel llofruddiaeth.
"Rwy'n cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau'r dioddefwr yn yr amser anodd hwn."