Rhybudd mam am eli haul ar ôl llosg difrifol mab 10 oed

  • Cyhoeddwyd
Pothelli a llosg difrifol ar ysgwydd OwiFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Owi ddim wedi ystyried pa mor ddifrifol y gall llosg haul fod

Mae mam o Borthmadog wedi rhybuddio am bwysigrwydd gwisgo eli haul cryf ar ôl i'w mab losgi'n ddifrifol.

Roedd Owi, sy'n 10 oed, yn chwarae tu allan yn y pwll nofio dros y penwythnos ac yn gwisgo eli haul.

Ond, pan wnaeth ddeffro fore Llun, dywedodd wrth raglen Newyddion S4C ei fod yn sâl ac roedd ganddo losg difrifol.

Yn ôl un arbenigwr, dyw'r hyn ddigwyddodd i Owi ddim yn anghyffredin, ac mae rhybudd i bobl wneud yn siŵr bod yr eli haul y mae'n nhw'n ei ddefnyddio o safon uchel.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Owi'n gwisgo eli haul tra'r oedd allan yn yr haul, ond yn ôl ei fam, Rhian, doedd hynny ddim yn ddigon

Roedd Owi'n teimlo'n sâl ar ôl y penwythnos, a'r llosg ar ei groen yn amlwg.

"O'n i am fynd i ysgol, ond 'nes i chwydu.

"[Mae o'n] mega brifo. Ti'm yn gallu cysgu arnyn nhw," dywedodd Owi.

Erbyn hyn, mae 'na bothelli difrifol wedi datblygu sy'n boenus.

"Nes i popio fatha pump heddiw wrth gysgu arnyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owi wedi cael eli gan y doctor i geisio lleddfu poen y llosg

Yn ôl Rhian, roedd Owi'n gwisgo eli haul yn gyson yn ystod y dydd, ond ei rhybudd i eraill nawr yw sicrhau bod yr eli haul o safon.

"Oeddan nhw fewn ac allan drwy'r dydd, oeddan nhw'n rhoi eli haul yn aml," dywedodd Rhian.

"Ond dio'm yn ddigon, dim ots pa ffactor ti'n rhoi, ti yn gallu llosgi 'efo rhai eli haul.

"Nes i awgrymu iddyn nhw rhoi crys-t ymlaen, achos o'dd hi'n dechra' mynd yn boeth... ond o'dd Owi'n gwrthod.

"Dwi'n meddwl mae o 'di dysgu gwers rŵan, Owi."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Dywedodd hefyd ei bod eisiau dangos a rhybuddio pobl arall "beth sy'n gallu digwydd".

"Ti'n meddwl bo' ti'n 'neud y gorau i dy blant yn rhoi'r eli haul 'ma rownd y rîl am bo' nhw fewn ac allan o'r dŵr 'de, ond doedd o'm yn ddigon.

"Dyna pam 'nes i rannu lluniau ar Facebook, just i atgoffa pobl faint o bwysig ydy o i rhoi eli haul a checio'r boteli hefyd."

Dywedodd Owi y byddai'n "fwy cyfrifol" nawr drwy wisgo crys-t hefyd.

"O'n i'n meddwl 'na just swimming pool oedd o - a bod o methu llosgi chdi hynna faint!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dylid chwilio am eli haul sy'n dangos label SPF 30 ac uwch, yn enwedig i blant, yn ôl arbenigwyr

Mae sawl gwahanol fath o eli haul ar gael yn y siopau.

Mae arbenigwyr yn dweud y dylid prynu eli haul sydd ag SPF uchel - ffactor 30 ac yn uwch - yn enwedig ar gyfer plant.

Yn ôl Dr Hywel Dafydd, sy'n ymgynghorydd llawfeddygol yng Nghaerdydd, dyw profiad Owi ddim yn anghyffredin.

Mae cynnydd mawr wedi bod, meddai, yn nifer y plant sy'n gofyn am gymorth oherwydd llosgiadau haul eleni o'i gymharu â llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Hywel Dafydd yn rhybuddio am sgil effeithiau hir dymor llosgiadau haul

"Dros y pythefnos diwethaf, ni 'di gweld 30 o blant sy'n gofyn am gyngor ynglŷn â beth i wneud ynglŷn â llosgiadau haul.

"Yn y cyfnod tebyg llynedd, dim ond pump o ymholiadau gethon ni," ychwanegodd.

"Felly, mae fwy o blant eleni wedi cael effeithiau llosg haul yn barod.

"O ran y sgil effeithiau hir dymor, mae canser y croen yn mynd yn fwy a mwy niferus flwyddyn ar ôl blwyddyn felly mae'r sgil effeithiau yn yr hir dymor hefyd ar eu hanterth."

Gyda rhagor o dywydd poeth a disgwyl gwres eithriadol o ddydd Sul, mae rhybudd i bobl gymryd gofal a sicrhau eu bod wedi eu diogelu rhag peryglon yr haul.

Pynciau cysylltiedig