Trydydd prawf: De Affrica 30-14 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru a De AffricaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Handre Pollard enillodd pwyntiau gynta'r gêm

Fe wnaeth Cymru golli cyfle i greu hanes yn Cape Town brynhawn Sadwrn wrth i'r Springboks eu curo o 30-14 yn nhrydydd prawf Cyfres yr Haf.

Petai Cymru wedi ennill, nhw fyddai'r tîm cyntaf o wledydd Prydain ac Iwerddon i ennill cyfres brawf yn Ne Affrica.

Roedd y Springboks wedi hoelio yn ardal 22 Cymru drwy gydol y 10 munud agoriadol, a phrin y gwnaethon nhw ildio meddiant am weddill y gêm.

Bydd y canlyniad yn siŵr o siomi'r ymwelwyr wedi iddyn nhw daro'n ôl i gadw'r gyfres yn fyw drwy ennill yr ail brawf wythnos ddiwethaf.

Daeth newyddion ychydig oriau cyn y gêm fawr na fyddai Gareth Anscombe - a sicrhaodd dri phwynt buddugol Cymru yn yr ail brawf - na Taulupe Faletau yn ymddangos ar y cae.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd De Affrica feddiant o'r cychwyn un

Enillodd y Springboks reolaeth o'r gêm o'r cychwyn cyntaf, gan siglo'r ymwelwyr.

Ildiodd Cymru gic gosb i'r tîm cartref yn eu hardal 22 eu hunain wedi ychydig funudau o chwarae, ond methu wnaeth y Springboks.

Gan barhau i roi pwysau ar yr ymwelwyr daeth De Affrica'n agos at sgorio'r cais agoriadol, cyn ennill pwyntiau gynta'r gêm wedi pum munud wrth i Handre Pollard sgorio cic gosb.

Yn ffodus i Gymru, daeth y tîm cartref o fewn trwch blewyn o sgorio cais arall yn fuan wedyn - ond penderfynodd y swyddogion yn ei erbyn.

Gyda Chymru'n parhau o dan warchae'r Springboks, llwyddodd Pollard i sgorio'r trosgais cyntaf i gyrraedd 10-0 wedi chwarter awr o chwarae.

Bu'n rhaid i Dan Lydiate adael y cae am ei fod yn gwaedu, ac fe ddaeth Alun Wyn Jones i gymryd ei le.

Wedi hynny, roedd mwy o drefn i chwarae Cymru, a llwyddodd Tommy Refell i groesi llinell gais y Springboks i sgorio ei gais cyntaf ar y lefel rhyngwladol.

Wrth i Dan Biggar fethu â throsi'r cais, roedd hi'n 10-5.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Springboks oedd ar y blaen erbyn yr egwyl

Ildiodd y Springboks gic gosb i Gymru wedi tua hanner awr ar ôl i Pieter-Steph du Toit wthio Alun Wyn Jones, a chiciodd Biggar dri phwynt i gyrraedd 10-8.

Ond toc cyn hanner amser fe ddaeth ergyd i Gymru wrth i Dde Affrica sgorio eu hail gais i gyrraedd 17-8, gyda Bongi Mbonambi'n croesi'r linell a Pollard yn trosi.

Y Springboks oedd ar y blaen wedi'r egwyl ar ôl rheoli meddiant o'r hanner gyntaf - ond wedi dwy funud fe ildion nhw gic gosb i'r ymwelwyr ac fe sgoriodd Biggar.

Parhaodd y dechrau addawol i'r ail hanner wrth i Biggar lwyddo i leihau mantais De Affrica unwaith eto rhyw 10 munud yn ddiweddarach gyda chic gosb arall i gyrraedd 17-14.

Ond wedi tua 55 munud llwyddodd y Springboks i ennill y fantais yn ôl gyda throsgais Siya Kolisi, a'r sgôr bellach oedd 24-14.

Methodd Cymru a tharo'n ôl wedi hynny, wrth i rym eilyddion y Springboks a dwy gic gosb pellach gan Pollard gymryd y sgôr terfynol i 30-14.

Pynciau cysylltiedig