Gwres llethol yn tarfu ar ganolfannau brechu a threnau
- Cyhoeddwyd
Mae rhai apwyntiadau brechu Covid-19 yn cael eu hail-drefnu wrth i Gymru baratoi am wres llethol.
Daw hyn wrth i benaethiaid iechyd leisio pryder y gallai'r GIG gael ei llethu gan y tywydd poeth eithriadol.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynghori cwsmeriaid ond i deithio os yw'n hanfodol.
Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd y 30au uchel mewn rhannau o Gymru ddydd Llun a dydd Mawrth.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd coch am wres eithafol am y tro cyntaf ddydd Gwener - sydd yn golygu fod yna berygl i fywyd - gan y gallai tymereddau gyrraedd 40 selsiws mewn rhannau o Loegr.
'Perygl y cawn ni ein llethu'
Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ail-drefnu rhai apwyntiadau brechu dros y dyddiau nesaf.
"Mae yna berygl go iawn y gallwn ni gael ein llethu os nad ydyn ni'n barod, neu fod pobl eu hunain ddim yn barod," meddai Nick Lyons o'r bwrdd iechyd.
"Rydyn ni'n cynghori pobl i fynychu eu hapwyntiad oni bai ein bod ni'n cysylltu â nhw," meddai'r bwrdd iechyd.
"Mae unrhyw benderfyniad i gau canolfan frechu neu ail-drefnu apwyntiad er lles y cyhoedd a'n staff."
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd ambr am dywydd poeth i Gymru gyfan ddydd Llun a dydd Mawrth, pan mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd y 30au uchel mewn rhai ardaloedd.
Fe fydd hi hefyd yn boeth gyda'r nos.
Bydd y rhybudd hefyd mewn grym i rannau o Gymru ddydd Sul, pan y gallai'r tywydd gyrraedd 33 selsiws yn y de-ddwyrain.
Fe wnaeth Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) godi'r rhybudd iechyd o Lefel 3 i Lefel 4 ddydd Gwener, sy'n gyfystyr ag "argyfwng cenedlaethol".
Mae Lefel 4 yn rhybuddio y gallai salwch a marwolaeth daro unigolion iach a ffit, ac nid pobl o fewn grwpiau risg uchel yn unig.
Mae yna gyngor hefyd gan gynrychiolwyr milfeddygon i bobl gymryd gofal arbennig o'u hanifeiliaid yn ystod y tywydd poeth.
'Effaith sylweddol ar y rheilffyrdd'
Mae Trafnidiaeth Cymru'n gofyn i gwsmeriaid ond i deithio os yw'n hanfodol o fewn ardal y rhybudd ambr, ac i beidio teithio o gwbl yn ardal y rhybudd coch.
"Mae disgwyl i'r tywydd darfu'n sylweddol ar y rheilffyrdd, yn enwedig yn ardal y gororau, ble fydd gwasanaethau o fewn ardal y rhybudd coch yn cael eu canslo," medden nhw.
"Mae hefyd disgwyl i'r gwres effeithio ar wasanaethau mewn rhannau eraill o Gymru."
Ymhlith y gwasanaethau fydd y tymheredd yn effeithio arnyn nhw mae Amwythig-Birmingham, Caer-Lerpwl, Caer-Manceinion, Caer-Crewe a Crewe-Manceinion, yn ogystal â Llinell Dyffryn Conwy.
Mae Network Rail wedi annog pobl ond i deithio os oes wir angen yn ystod y cyfnod poethaf ddydd Llun.
'Rhaid gwrando ar eu cyrff eu hunain'
Fe wnaeth cannoedd o bobl ymgynnull yn Llanberis ddydd Sadwrn wrth i'r pentref gynnal Ras yr Wyddfa am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Fe wnaeth trefnwyr y ras rhybuddio'r rhedwyr i ddod â digonedd o ddŵr wrth iddynt redeg yn y gwres tanbaid ganol brynhawn, ac roedd yna orsafoedd dŵr ar hyd y llwybr.
Dywedodd y trefnydd, Stephen Edwards: "Mae'r tywydd braf 'ma, mae pawb yn mwydro amdano fo, ma' heatwave yn dod 'fory, ond yn yr '80au hwyr, fel hyn oedd hi drwy'r haf.
"Ry' ni just 'di gorfod rhoi mwy o ddŵr ar y mynydd, deu'tha nhw 'yfad yfad yfad,' ac os ydyn nhw'n sâl i dynnu allan. Ar ddiwedd y dydd, mae'r Wyddfa yna blwyddyn nesa', ac mae'n rhaid iddyn nhw wrando ar gyrff eu hunain."
Mae rasys eraill yng Nghymru dros y penwythnos wedi cynghori rhedwyr i arafu eu cyflymder oherwydd yr amgylchiadau.
Ond mae Iwan Edgar yn rhedwr penderfynol a chystadleuol a oedd yn barod i wynebu'r her wrth ddringo'r Wyddfa.
"Dwi ddim yn keen ar y gwres 'ma chwaith - ond wedi dweud hynny, yn y gorffennol 'dio ddim wedi effeithio gormod arna i. Gobeithio bod pobl eraill yn dioddef fwy na fi!"
Teithiodd Lizzy Felton o Bontardawe i gystadlu, ynghyd â'i merched Catrin a Gwen a oedd yn rhedeg yn y rasys plant.
Roeddent yn edrych ymlaen i gymryd rhan: "Mae'n boeth, ond mae gen i ddigon o ddŵr… mae'r tywydd yn braf felly dyna ni!"
"Jyst eli haul ychwanegol, er mae hi'n eithaf anodd i redeg tra'n ei wisgo, mae fel haen ychwanegol ar dy gorff."
Dywedodd sawl cyngor wrth y BBC eu bod wedi rhoi cyngor swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r llywodraeth i ysgolion.
Mae Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno egwylion i'w gwersi, symud gwersi i ardaloedd llai poeth o'r ysgol, a chaniatáu i ddisgyblion wisgo cit ymarfer corff i'r ysgol.
Wrth i ŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau ddychwelyd y penwythnos hwn, dywedodd un o'r sylfaenwyr Ywain Myfyr y byddai digon o ddŵr ar gael, a chyhoeddiadau cyson o'r llwyfannau i atgoffa pobl i fod yn ofalus.
Fe wnaeth Sefydliad Brenhinol y Badau Achub (RNLI) annog pobl sydd am fynd i'r traeth i sicrhau fod yna achubydd bywyd yno, ac i nofio mewn ardaloedd sydd wedi eu clustnodi i nofwyr.
Mae yna bryder hefyd am yr effaith ar fywyd gwyllt wedi i lefelau dŵr mewn afonydd ostwng yn sgil diffyg glaw, ac mae pysgota wedi cael ei gwahardd mewn rhannau o Gymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022