Pum munud gyda Ffion Dafis, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2022

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llyfr y Flwyddyn

Awdur sydd eisoes yn adnabyddus fel actores a chyflwynwraig sy'n cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022.

Mae Ffion Dafis yn enwog am chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani a Rhiannon yn Byw Celwydd ar S4C, ond gyda'i nofel gyntaf un, Mori, mae'n dathlu ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Fe ysgrifennodd Ffion Dafis y nofel yng nghanol y cyfnod clo ac mae'n cael ei disgrifio gan Lleuwen Steffan fel un "gignoeth sy'n mynd dan groen ac yn treiddio i'r byw."

Dyma bum munud yng nghwmni Ffion Dafis, ychydig funudau ar ôl iddi ddarganfod mai hi enillodd gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni, ble mae hi'n sôn am gynnwys y nofel a sut na fyddai'r gyfrol wedi'i sgwennu o gwbwl oni bai am y cyfnod clo.

Pynciau cysylltiedig