Cadw dyn mewn uned iechyd meddwl am ddynladdiad ei dad

  • Cyhoeddwyd
Michael GayleFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Michael Gayle yn Hydref 2020

Mae dyn 23 oed o Gaerdydd wnaeth bledio'n euog i ddynladdiad ei dad wedi ei gadw dan oruchwyliaeth y ddeddf iechyd meddwl am gyfnod amhenodol.

Roedd Garvey Gayle o ardal Laneirwg hefyd wedi pledio'n euog i geisio llofruddio ei fam Amdana Brookes yn 2020.

Bydd yn cael ei gadw yng nghlinig Caswell ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n gofalu am droseddwyr a chleifion eraill sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Dywed y teulu y dylai Garvey Gayle fod wedi derbyn help cyn i hyn ddigwydd a bod angen dysgu gwersi.

Bu farw Michael Gayle yn dilyn ymosodiad yn ei gartref yn Cypress Crescent yn Hydref 2020.

Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion fforensig tu allan i gartef Michael Gayle yn Cypress Crescent

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Garvey Gale wedi mynd i dymer a'i fod yn dioddef o sgitsoffrenia ar y pryd.

Roedd wedi dod o hyd i gyllell oedd yn cael ei guddio rhagddo ar dop rhewgell.

Cafodd Michael Gayle, tad i bedwar, ei drywanu 17 gwaith a bu farw yn y fan a'r lle.

Cafodd Amanda Brookes ei thrwynau yn ei braich, ystumog a'i hochr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Wedi'r achos fe wnaeth teulu Michael a Garvey Gayle ryddhau llun o'r ddau pan oedd Garvey'n blentyn

Mewn datganiad dioddefwyr i'r llys, dywedodd dwy o chwiorydd Garvey Gayle fod eu tad yn ddyn "tyner a chariadus".

"Bydd ein teulu byth yr un peth," meddai'r datganiad.

"Fel teulu fe wnaethom bopeth y gallwn i helpu Garvey.

"Dylai byth wedi dod i hyn, dylai ddim cymryd marwolaeth ein tad er mwyn i'n brawd gael help.

"Mae'n rhaid dysgu gwersi o hyn."

Wrth gael ei arwain o'r llys fe wnaeth Garvey Gayle weiddi "rwy'n dy garu di, Mam".

Pynciau cysylltiedig