Lluniau: Sesiwn Fawr Dolgellau 2022
- Cyhoeddwyd
Wedi bwlch o ddwy flynedd roedd gŵyl werin Sesiwn Fawr Dolgellau yn ôl a miloedd ar sgwâr a strydoedd y dref yn mwynhau cerddoriaeth fyw yn yr haul unwaith eto.
Roedd 58 o artistiaid yn perfformio ar draws naw llwyfan, yn gymysgedd o gerddoriaeth gwerin a roc.
Ymhlith artistiaid cerddorol prif lwyfan yr ŵyl yng Ngwesty'r Ship roedd Yws Gwynedd, Sŵnami, Tara Bandito, Skerryvore o'r Alban, N'famady Kouyaté o Guinea Gorllewin Affrica a The Trials of Cato.
Roedd digwyddiadau eraill wedi eu trefnu hwnt ac yma yn y dref gan gynnwys ar y brif sgwâr ar ddydd Sadwrn, sef lleoliad gwreiddiol yr ŵyl yn y gorffennol.
Mae'r Sesiwn Fawr yn cael ei threfnu gan bwyllgor bychan o wirfoddolwyr lleol.
Ymysg sgyrsiau llenyddol yr wyl roedd digwyddiad i lansio cyfrol y Sesiwn, Tydi'r Sgwâr Ddim Digon Mawr, sy'n dathlu 30 mlynedd o'r Sesiwn.
Mae'n cynnwys hanesion, lluniau ac atgofion 30 mlynedd o'r Sesiwn Fawr.
Un o sylfaenwyr y Sesiwn Fawr, Ywain Myfyr, yw awdur y gyfrol.
"Roedd hi mor braf croesawu pawb yn ôl i'r Sesiwn wedi dwy flynedd o egwyl," meddai.
"Pawb wedi cyrraedd hefo gwên lydan ar eu wynebau, a mae'r wên wedi mynd yn fwy llydan fyth wrth i'r penwythnos fynd yn ei blaen ac wrth i bawb fwynhau'r arlwy amrywiol. Yn ogystal a bod yn hwb i'r ysbryd, mae'r penwythnos hefyd wedi bod yn hwb sylweddol i economi'r ardal yn dilyn cyfnod heriol o ganlyniad i'r pandemig. Dwi'n gobeithio y gallwn ni gyd edrych ymlaen yn hyderus at y 30 mlynedd nesa."
Dywedodd perchennog siop leol, Llinos Rowlands, fod sawl ymwelydd wedi cael sypreis o ddod ar draws yr ŵyl yn y dref a methu credu'r holl fwrlwm oedd i'w chael mewn tref mor fach.