Y nyrs sefydlodd ysgol yn Affrica yn ei amser rhydd
- Cyhoeddwyd
Pan welodd Mati Roberts decstilau lliwgar mewn siop yn Affrica fe newidiodd llwybr ei bywyd hi a chymuned gyfan yn Ghana am byth.
Wyth mlynedd ers disgyn mewn cariad gyda'r defnydd mae ganddi fusnes creadigol sy'n rhoi hwb i economi'r wlad ac yn addysgu dros 200 o blant. A hyn oll wrth barhau i weithio fel nyrs yng Nghaerdydd.
Dechreuodd ei siwrnai yn 2014 pan aeth i weithio am fis ar brosiect iechyd yng ngorllewin Affrica. Roedd hi'n byw yn Llundain ar y pryd ac wedi bod yn gwneud cwrs ar decstilau a dylunio yn ei hamser rhydd.
"Dwi'n cofio mynd heibio siopau yn gwerthu'r defnydd mwya' anhygoel, ac roedd rhai yn debyg i batrwm oedd gen i yn fy mhen i'w ddylunio," meddai.
Wrth holi am y tecstilau, deallodd bod y diwydiant cynhenid yn Ghana wedi crebachu a'i dyfodol yn y fantol - diolch i wledydd y gorllewin. Mae cymaint o ddillad yn cael eu prynu a'u taflu i ffwrdd yng ngwledydd Ewrop maen nhw'n cael eu hailgylchu drwy eu gyrru i wledydd fel Ghana.
Yn ôl Mati, mae 15 miliwn eitem yr wythnos yn mynd i un farchnad yn y brifddinas Accra, y rhan fwyaf o Brydain. Mae 40% o'r dillad o safon mor isel maen nhw'n cael eu taflu neu eu llosgi, tra bod y gweddill yn cael eu gwerthu - sy'n lladd y diwydiant tecstilau cynhenid.
'Dim clem be' i wneud'
"Mae i weld yn wych ein bod ni'n ail-gylchu a bod pobl yn Affrica yn cael yr holl ddillad yma, ond mae'n cael effaith arall," meddai Magi.
"Ydi, mae'n creu swyddi i'r bobl sy'n delio efo'r bwndeli o ddillad ond os ydych chi'n meddwl am faint o bobl oedd yn dibynnu ar y diwydiant tecstilau am waith - tyfu cotwm, mynd a'r defnydd o gwmpas, pobl yn y ffatrïoedd, y designers, siopau gwneud dillad - roedd cymaint o bobl yn cael arian o'r diwydiant, ond mae'r diwydiant wedi lleihau o 90% ers yr 1990au.
"Pan nes i glywed am effaith yr hyn oedden ni'n wneud yn y gorllewin wnaeth hynny wneud i fi brynu'r defnydd. Doedd dim clem gen i be' oeddwn i am wneud efo'r ffabrig - nes i jest ei brynu, ac wedyn nes i a dwy arall o Gymru oedd yn Affrica efo fi eu cario yn ôl i Gymru."
Dechreuodd ddefnyddio'r defnydd i wneud dillad, a thrwy ei chysylltiadau fe lwyddodd i gael pobl i ddod a mwy o decstilau iddi yn Llundain pan fo angen.
Symudodd yn ôl i Gaerdydd yn 2017, a gofynnodd rhywun iddi wneud lamplen "oedd ddim yn lliw beige". Fe lwyddodd i wneud un - diolch i fideo ar y we - ac yn sgil ambell gomisiwn gan ffrindiau a dechrau gwerthu mewn marchnadoedd yng Nghaerdydd, fe sefydlodd gwmni Matico.
Yna yn 2018 daeth galwad ffôn gan adeiladwr yn Ghana, un o'r bobl oedd wedi ei helpu i gael ffabrig drosodd i Brydain. Roedd Kofi wedi dechrau adeiladu fflatiau mewn ardal ar gyrion y brifddinas pan sylweddolodd mai'r hyn oedd wir angen ar y gymuned oedd ysgol - ac a fyddai Mati yn ei helpu i sefydlu un.
Daeth dau atgof yn ôl iddi o'i chyfnod yn Ghana, lle dydi pob plentyn ddim yn derbyn addysg a nifer yn gorfod mynd i ysgolion sy'n bell o'u cartrefi.
Un ohonyn nhw oedd merch oedd yn aros yn yr un tŷ a hi. Roedd ei chartref bedair awr i ffwrdd ond roedd rhaid iddo fod yno er mwyn cael addysg. Er mwyn cael arian roedd hi'n codi am bump y bore i wneud gwaith tŷ cyn mynd i'r ysgol, ac yna'n gweithio eto tan 11pm. Dim ond saith oed oedd hi.
'Doedd 'na ddim llyfrau yno'
Yr ail atgof oedd pan adawodd Mati ar ddiwedd ei mis a mynd a fferins i gartref plant amddifad cyfagos, ac un o'r plant yn dod ati.
Meddai Mati: "Roedd e'n fychan, dim ond tua chwech oed, a wnaeth e dynnu ar fy nhop a dweud: 'diolch am y losin ond be ydan ni wir angen ydi geiriaduron ac encyclopedias.' Nes i edrych o gwmpas a doedd 'na ddim llyfrau yno."
Felly pan ddaeth yr alwad gan Kofi doedd dim rhaid iddi feddwl rhyw lawer cyn ateb.
"Ro'n i ar noson allan a nes i ddweud 'iawn'," meddai Mati. "Diwrnod wedyn ffoniodd fi nôl a dweud ei fod wedi cofrestru'r ysgol!"
O fewn dim roedd 36 o blant yn mynd i ysgol newydd wedi ei adeiladu gydag elw busnesau'r ddau. Ers hynny mae'r ysgol wedi ehangu gyda dros 200 o ddisgyblion yno erbyn hyn, ynghyd a 10 o athrawon, gofalwr a phennaeth.
Mae'r disgyblion sydd gyda'r modd yn talu ffioedd - sy'n rhatach na chost mynd i ysgolion y wladwriaeth - ond mae Mati, Kofi a chyfeillion yn Ghana a Chymru yn helpu talu ffioedd y disgyblion sydd methu cyfrannu at eu haddysg.
Mae cyflogau'r staff, yr adnoddau, a dau bryd poeth y dydd i'r disgyblion i gyd yn cael eu hariannu gan y fenter.
Meddai Mati, sydd erbyn hyn yn gweithio rhan amser fel nyrs yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd er mwyn gallu rhoi mwy o amser i ddatblygu'r busnes: "Dwi'n ymwybodol iawn bod hwn yn rhywbeth dwi wedi comitio iddo ac yn rhywbeth dwi'n mynd i wneud am byth.
"Mae'n wych ac yn anhygoel, felly dwi angen gwneud yn siŵr bod fy musnes yn tyfu a dwi'n bwriadu ei droi yn social enterprise."
Dydi Mati heb fod drosodd i Affrica ers cyn y pandemig, ond mae hi'n bwriadu ymweld yn ddiweddarach eleni i helpu peintio'r ysgol ac yn edrych ymlaen gan fod y bobl yno yn wir gwerthfawrogi rhywbeth sy'n cael ei gymryd yn ganiataol yma - addysg.
"Mae mor hyfryd mynd yno," meddai. "Ro'n i'n caru mynd i'r ysgol yma ond yn Ghana maen nhw'n canu a dawnsio i ddechrau'r diwrnod, mae 'na biano bychan ac maen nhw'n chwarae hwnna a'r athrawon yn defnyddio bins fel drymiau ac mae pawb yn dawnsio. Mae o mor hyfryd i'w weld."
Hefyd o ddiddordeb: