Cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad wedi newid bywyd tri o Fôn
- Cyhoeddwyd
"Fe wnaeth cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 1958 newid bywyd mewn ffordd - mi o'dd o'n rhywbeth wnaeth dynnu fi a'n nwy ffrind allan o ryw le bach yn Sir Fôn," medd Dewi Roberts.
"Fe gawson y cyfle i gyfarfod pobl ledled y byd ac i ddangos mewn ffordd bo ni cystal â nhw."
Yn 1958 roedd Dr Roberts, yn wreiddiol o Edern ond a fagwyd ym Mhentraeth, a dwy gyfnither Beryl Turner (Jones bellach) a Gwyneth Lewis (Barnwell) o Gaergybi wedi'u dewis i redeg yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd.
Ar drothwy gemau eleni yn Birmingham mae'r tri wedi bod yn rhannu eu hatgofion â Cymru Fyw.
Roedd Dewi Roberts yn 19 adeg y gemau ac mae'n cofio derbyn y llythyr yn ystod y flwyddyn a dreuliodd ym Mhrifysgol Lerpwl.
"Pan ges i'r gwahoddiad do'n i ddim yn gwybod pwy i ddeud wrtho, wyddoch chi, o'n i mor hapus.
"Y person 'nes i ddweud wrtho oedd David Seaborne Davies oedd o Bwllheli. O'n i'n byw yn ymyl ei dŷ o yn Derby Hall a dwi'n cofio fo'n deud 'Da iawn, frawd'."
Ychwanegodd Gwyneth Barnwell: "O'n i yn y Bangor Normal ar yr adeg ddaru'r llythyr ddod. Lyfli, a dwi'n cofio mynd lawr i gael yr iwnifform - sgert wen, blows wen, blazer goch a beret, sgidia a handbag a ffrog mewn Prince of Wales check, mewn du a gwyn - popeth yn ffantastig.
"Rhyfedd bod fy nghyfnither wedi'i dewis hefyd - doedd 'na ddim rhedeg yn y teulu."
Mae Beryl Jones ddwy flynedd yn iau ac mae hi'n cofio cystadlu yn y tîm iau - roedd hi'n cystadlu yn y 100 llath ac roedd yn "brofiad bythgofiadwy".
"Dwi'n cofio'n iawn mynd i lawr yna ar siwrne o Gaerdydd i Sain Tathan a meddwl dyna le od achos cytiau pren oeddan nhw.
"Dwi'n cofio'r ogla'. Doeddwn i erioed wedi clywad ogla' cyri ac o'n i ofn ei drio fo rhag mynd yn sâl."
Ychwanegodd Dewi: "Ar ddiwedd y games ro'n i wedi rhoi tua pedwar pwys ymlaen efo'r bwyd da - do'n i erioed wedi gweld y ffasiwn fwyd."
'Dim deiet na hyfforddiant'
Doedd yna fawr o sôn am ddeiet ond medd Dewi: "Dwi'n cofio pawb yn cymryd yr Horlicks tablets - oeddan i'n meddwl bod Horlicks tablets yn rhoi rhyw fath o faeth i chi ond o'n nhw'n neud i'ch dannedd chi sticio efo'i gilydd."
"Y Guinness dwi'n gofio," medd Beryl, "ac roedd yn dda ond yr hyn sydd wedi sefyll yn fy meddwl fwyaf yw cerdded i fewn i'r stadiwm a chlywed sŵn y bobl.
"O'dd hynna'n ddychryn i mi de - fath â bo' fi'n cael fy chwythu'n ôl gyda'r sŵn.
"Be' dwi'n gofio am y ras ydy ar y diwedd, gweld y diwedd ond o'dd na gymaint o bobl o'm mlaen i ac o'n i erioed wedi gweld cymaint o bobl o'm mlaen i o'r blaen.
"Dwi'n meddwl bo' fi wedi cerdded dros y lein... achos o'n i'n ofn hitio rywun a ddim yn sylweddoli y buaswn yn cael fy amseru - yn fy mhrofiad bach i dim ond y cynta' oedd yn cael ei amseru.
"Dwi'n meddwl y buasai wedi bod yn braf petaen ni wedi gallu cael y coaching ma' nhw'n ei gael rŵan... gaethon ni ddim byd ond bod ar y lôn.
"O'n i'n rhedeg i bob man a dyna'r cwbl gaethon ni, ac roedd disgwyl i ni 'neud yn wyrthiol yng Nghaerdydd.
"Ddaru'r ysgol brynu starting blocks i ni - heblaw am hynny fasan ni'n mynd i redeg a ddim yn gwybod be i 'neud efo nhw."
Dywedodd Dewi Roberts: "Wrth gwrs yn Ysgol Biwmares doedd gynnon ni neb yn dysgu ymarfer corff o gwbl ond fe wnaeth un o gyn-lywodraethwyr yr ysgol, y Cyrnol Hines, weld fi'n rhedeg a dyma fo'n deud 'I'd like to coach you'.
"Roedd o wedi rhedeg yn yr Olympic Games cynta' yn Athen yn 1896 ac o'n i'n mynd o'r Rheithordy ym Mhentraeth, rhedeg lawr i Draeth Coch, rhedeg ar hyd lan môr ac i fyny i'w dŷ o - Wern y Wylan.
"O'n i'n cadw dyddiadur. Yn y ddwy flynedd ola' yn yr ysgol ac yn y flwyddyn ro'n i yn Lerpwl cyn mynd i Gaergrawnt o'n i wedi hyfforddi dros bum gwaith a hanner bob wythnos a mi 'nes i hyd yn oed ymarfer ar ddiwrnod 'Dolig. Ro'n i'n meddwl y buasai hynny'n gneud gwahaniaeth!
"Y relay oedd fy main event i ac ro'dd gynnon ni dîm arbennig o dda.
"Tydw i erioed wedi bod yn nerfus, mae'n rhaid i fi ddweud y gwir - dyna pam o' nhw'n licio fy nghael i mewn relay. Ro'n i'n medru cadw fy mhen nes bod y rhedwr yn rhedeg i mewn."
Ychwanegodd: "Ges i brofiadau da yng Nghaerdydd - cyfarfod â bobl o bob man.
"Dwi'n cofio'n arbennig cyfarfod ag Adolf Dassler, sef sefydlydd cwmni Adidas, ac ers hynny pan o'n i angen spikes newydd dim ond anfon gair ato fo ac ro'n i'n cael rhai am ddim - top of the range, llawer gwell na'r rhai trwm oedd gen i.
"Cofio hefyd cyfnewid fest 'da'r dyn o Jamaica wnaeth ennill yr hurdles a thair blynedd yn ôl mi es i gyflwyno'r fest i lysgenhadaeth Jamaica er cof amdano."
Ras i'w hanghofio
Mae Gwyneth Barnwell, sydd bellach yn byw yn Abergele, yn cofio cael amser hynod o gyffrous ond hefyd yn cofio tîm ras gyfnewid Cymru yn cael ei ddiarddel o'r ras wedi i'r rhedwr cyntaf dorri'r rheolau.
"O'dd gynnon ni siawns o gael y bronze ac yn wir ro'n i'n meddwl ein bod wedi cael y fedal efydd.
"Nes i'm gweld y fflag achos first takeover o'dd o - ro'n i'n rhedeg yn bedwerydd.
"Do'n i'm yn gwybod bo' ni'n eliminated tan y diwedd, ond be fedran ni 'neud?" meddai wrth gofio'n ôl.
"Do'dd na neb o'r teulu wedi dod lawr - doeddan nhw ddim yn meddwl bod o'n beth pwysig yn wir," ychwanega Dewi Roberts.
"Ro'n i'n meddwl bod o'n beth pwysig... Roeddwn wedi colli mam yn ifanc a 'nhad ar y môr ond yn ystod y gemau ro'dd o ar wyliau ac o'dd o wedi prynu television... a na'th o weld un ras pan o'n i'n rhedeg."
Ychwanegodd Beryl Jones: "O'dd o'n brofiad gwahanol iawn a rhywbeth 'nawn ni fyth anghofio. 'Nes i ddim meddwl, yn fy 80au, y byddwn dal i sôn am yr amser ro'n i yna."
"Dwi'n siŵr petaen i dal i redeg y bydden i'n ennill o hyd!" ychwanega Dewi gan chwerthin. "Oedd, roedd o'n amser da."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022