Cyhoeddi enwau Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Ymateb Joe a Hannah Brier i gael cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022

Mae Tîm Cymru wedi cyhoeddi enwau 126 o athletwyr fydd yn cystadlu mewn 11 o wahanol gampau yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.

Bydd yna ragor yn cael eu dewis yn yr wythnosau nesaf o bedwar camp arall - rygbi saith-pob-ochr, hoci, pêl-rwyd a gymnasteg.

Fe fydd y tîm terfynol ar gyfer y gemau ym mis Gorffennaf yn cynnwys 199 o athletwyr - 100 o fenywod a 99 dyn.

Mae'r tîm yn cynnwys 19 o bara-athletwyr hefyd - y nifer uchaf erioed.

'Cyfle i serennu'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Olivia Breen fedalau aur ac efydd yng Ngemau'r Arfordir Aur yn 2018

Yn ôl Cathy Williams, pennaeth ymgysylltu Gemau'r Gymanwlad Cymru, mae'r gemau yn rhoi cyfle i'r athletwyr yma gynrychioli eu gwlad ac "maen nhw mor falch o hynny".

"I'r rhan fwyaf o'r athletwyr yma dyma'r llwyfan mwyaf maen nhw'n cystadlu dros eu gwlad," meddai ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

"Dy'n nhw ddim yn cael sylw'r wasg fel falle dylen nhw - fel sboncen, tenis bwrdd a gymnasteg ac ati.

"Maen nhw'n gweithio yn galed pob dydd a dyma'u cyfle nhw i serennu a chael y clod maen nhw'n haeddu cael."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Aled Siôn Davies heb gynrychioli Cymru yn y Gymanwlad ers 2014, am nad oedd ei gystadleuaeth yn rhan o'r rhaglen yn 2018

Bydd Aled Siôn Davies, sydd wedi ennill tair medal aur Olympaidd, yn anelu am y podiwm unwaith eto ar ôl ennill arian yn Glasgow yn 2014.

Yno hefyd fydd Anwen Butten, aelod o'r tîm bowlio, yn cystadlu yn y gemau am y chweched tro, ac enwau adnabyddus yn y byd seiclo fel Geraint Thomas, Luke Rowe ac Elinor Barker.

Yn y gemau diwethaf ar yr Arfordir Aur yn Awstralia yn 2018 fe wnaeth Tîm Cymru ennill mwy o fedalau nac erioed.

Roedd y 36 o fedalau hynny'n cynnwys 10 aur, 12 arian a 14 efydd, wrth i Gymru orffen yn seithfed yn y tabl medalau.

Athletau

Fe fydd 11 o athletwyr yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf, gan gynnwys Jake Heyward wnaeth gystadlu yn y 1500m yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo, a Jeremiah Azu, pencampwr Ewropeaidd dan 23 yn y 100m.

Y rhestr lawn

Jeremiah Azu, Olivia Breen, Joe Brier, Hannah Brier, Natasha Cockram, Piers Copeland, Melissa Courtney-Bryant, Clara Evans, Lauren Evans, Aled Sion Davies, Bethan Davies, Dewi Griffiths, Jake Heyward, Jon Hopkins, Osian Jones, Rhys Jones, Heather Lewis, Jenny Nesbitt, Adele Nicoll, Julie Rogers, Amber Simpson, Harrison Walsh.

Bocsio

Mae'r efeilliaid Garan ac Ioan Croft, wnaeth ennill medalau ym Mhencampwriaethau Ewrop, ymhlith naw bocsiwr yn y tîm.

Y rhestr lawn

Zoe Andrews, Taylor Bevan, Ioan Croft, Garan Croft, Jake Dodd, Rosie Eccles, Owain Harris, Helen Jones, Haaris Khan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Elinor Barker ymhlith carfan seiclo Cymru

Seiclo

Bydd y pencampwr Olympaidd Geraint Thomas a Luke Rowe ymhlith y seiclwyr fydd yn cystadlu.

Yno hefyd fydd Elinor Barker ar ôl rhoi genedigaeth i'w phlentyn cyntaf ym mis Mawrth.

Y rhestr lawn

Elynor Backstedt, James Ball, Elinor Barker, Megan Barker, Ella Barnwell, Rhys Britton, Ellie Coster, Leah Dixon, Owain Doull, Rhian Edmunds, Emma Finucane, Joe Holt, Nia Holt, Eluned King, Harvey McNaughton, Anna Morris, Alex Pope, William Roberts, Jessica Roberts, Luke Rowe, Joshua Tarling, Geraint Thomas, Lowri Thomas, Stephen Williams.

Peilots seiclo: Steff Lloyd (Alex Pope), Matt Rotherham (James Ball), Amy Cole (Nia Holt).

Deifio

Bydd Aidan Heslop yn gwneud ei ail ymddangosiad yn y gemau, ar ôl cystadlu yn Awstralia bedair blynedd yn ôl pan oedd yn 15 oed.

Y rhestr lawn

Lucy Hawkins, Aidan Heslop, Ruby Thorne.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Natalie Powell yn gobeithio efelychu ei llwyddiant yn Glasgow yn 2014

Jiwdo

Nid oedd Jiwdo yn un o'r campau yn Awstralia bedair blynedd yn ôl, ond mae'n cael ei gynnwys unwaith eto yn Birmingham.

Bydd Natalie Powell yn gobeithio ailadrodd ei llwyddiant yn Glasgow yn 2014 pan enillodd fedal aur.

Y rhestr lawn

Ashleigh-Anne Barnikel, Natalie Powell, Gregg Varey, Daniel Rabbitt, Jasmine Hacker-Jones, Callum Bennett.

Bowls

Fe fydd Anwen Butten yn cystadlu yn y Gemau am y chweched tro.

Y rhestr lawn

Jarrad Breen, Paul Brown, Anwen Butten, Owain Dando, Laura Daniels, Gordon Llewellyn, Sara Nicholls, Ross Owen, Daniel Salmon, Chris Sprigs, Caroline Taylor, Julie Thomas, Jon Tomlinson, Ysie White.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Tesni Evans yn anelu am fedal arall yn Birmingham eleni

Sboncen

Fe wnaeth Tesni Evans ennill medal efydd yn Awstralia bedair blynedd yn ôl, a bydd ei brawd Emyr yn ymuno â hi yn y garfan ar gyfer Gemau Birmingham.

Y rhestr lawn

Peter Creed, Emyr Evans, Tesni Evans, Joel Makin, Emily Whitlock.

Nofio

Ymhlith y cystadleuwyr fydd y pencampwyr Olympaidd Calum Jarvis a Matthew Richards.

Y rhestr lawn

Kieran Bird, Kyle Booth, Dylan Broom, Thomas Carswell, Charlotte Evans, Lewis Fraser, Medi Harris, Calum Jarvis, Daniel Jervis, Daniel Jones, Harriet Jones, Rebecca Lewis, Bradley Newman, Lily Rice, Matthew Richards, Joseph Small, Rebecca Sutton, Alys Thomas, Liam White, Meghan Willis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 11 oed fe wnaeth Anna Hursey gynrychioli Cymru yn y gemau yn Awstralia yn 2018

Tenis bwrdd

Bydd Anna Hursey, oedd yn 11 oed pan gafodd ei dewis fel yr athletwr ifancaf erioed i gystadlu yn y Gemau yn 2018, yn dychwelyd i'r garfan.

Hefyd yn dychwelyd fydd Charlotte Carey a Chloe Thomas Wu Zhang.

Y rhestr lawn

Charlotte Carey, Anna Hursey, Chloe Thomas Wu Zhang, Lara Whitton, Joshua Stacey, Grace Williams, Callum Evans.

Disgrifiad o’r llun,

Non Stanford oedd capten Tîm Cymru yn 2018

Triathlon

Rhys Jones fydd y para-athletwr cyntaf i gystadlu yn y Triathlon i Gymru, gyda'i beilot Rhys James.

Yn cystadlu hefyd fydd Non Stanford - capten y garfan yn Awstralia yn 2018.

Y rhestr lawn

Dominic Coy, Rhys Jones, Iestyn Harrett, Olivia Mathias, Isabel Morris, Non Stanford.

Codi pwysau

Birmingham fydd y trydydd tro i Christie-Marie Williams i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad.

Y rhestr lawn

Christie-Marie Williams, Amy Salt, Michael Farmer, Hannah Powell, Catrin Jones, Faye Pittman, Jordan Sakkas.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Curtis Dodge fedal efydd i Gymru yng ngemau 2018

Wreslo

Mae Curtis Dodge wedi cystadlu yn y gemau ddwywaith o'r blaen, gan gystadlu yn Jiwdo y 2014 a wreslo yn 2018.

Yno am y tro cyntaf fydd Shannon Alex Harry o Lanelli, sy'n cystadlu yn yr adran dan 57 cilo.

"Mae'n teimlo'n wych. O'n i ddim ond wedi ffeindio allan wythnos ddiwethaf felly mae o dal yn sinco mewn, ma'n riligyffrous."

Y rhestr lawn

Shannon Alex Harry, Curtis Dodge.