Cwest i farwolaeth dynes o Fôn 28 mlynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Doreen MorrisFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Darganfyddwyd gorff Doreen Morris yn ei chartref yn 1994

Bydd cwest yn cael ei gynnal bron i dri degawd wedi i ddynes gael ei lladd yn ei chartref cyn iddo'i roi ar dân.

Dechreuodd yr heddlu ymchwilio marwolaeth Doreen Morris, 64, yn ei chartref ar Ynys Môn yn 1994, ond mae'r achos yn parhau heb ei ddatrys.

Safodd dyn ei brawf am lofruddiaeth yn 1996, ond fe'i cafwyd yn ddieuog gan reithgor.

Cafodd gwrandawiad cyn-gwest ei gynnal yng Nghaernarfon ddydd Gwener.

Mae gwrandawiad llawn, y disgwylir iddo bara pythefnos, wedi'i drefnu ar gyfer 5 Rhagfyr.

Mae'n dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan deulu Ms Morris, sy'n dweud na fu erioed gyfle i sefydlu'r ffeithiau am sut y bu iddi farw.

Daethpwyd o hyd i'w chorff wedi'i losgi'n ddrwg yn ei chartref yng Nghaergybi yn ystod oriau mân y bore ar 25 Mawrth, 1994.

Daeth patholegydd i'r casgliad ei bod wedi ei lladd cyn i'r tân ddechrau.

Cafodd person ei arestio yn 2004, yn ogystal ag apeliadau pellach am wybodaeth yn 2010 ac yn 2015, gan gynnwys ail-greu'r digwyddiad ar raglen Crimewatch y BBC.

Fodd bynnag, does neb wedi ei ganfod yn euog o farwolaeth Ms Morris.

Cafodd cais gan ei theulu i'r Uchel Lys yn 2010 i gynnal cwest ei wrthod.

Ond mae newidiadau i'r gyfraith ers hynny yn golygu y gall gwrandawiad llawn bellach fynd yn ei flaen.

Pynciau cysylltiedig