150 diwrnod o ryfel: Adroddiad arbennig o Wcráin
- Cyhoeddwyd
Sŵn y bomiau, llefain a theuluoedd ar chwâl - dyna rai o brofiadau tîm Newyddion S4C wrth iddyn nhw dreulio cyfnod yn Wcráin bum mis ers dechrau'r rhyfel. Dyma rai o brofiadau Rhodri Llywelyn o'r erchylltra yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Diflannodd Andriy i'w dŷ er mwyn casglu peth o'i eiddo gwerthfawr. Doedd ein gyrrwr ddim wedi bod yn ei gartre' ar gyrion Kharkiv ers deufis. Mae'r teulu ar chwâl - ei wraig a'i blant wedi ffoi i ddiogelwch Yr Almaen. Tomen o rwbel yw tŷ cymydog gafodd ei daro gan daflegryn.
Wrth i sŵn bomiau daranu o gyfeiriad lluoedd Rwsia sydd 'mond 10 milltir i'r gogledd, daeth y cyn-filwr yn ôl i'r fan yn cydio'n dynn mewn blanced o wely ei ferch fach wyth mlwydd oed - cysur prin mewn gwlad dan warchae.
Mae tîm Newyddion S4C - Gwyn Loader, ein dyn camera Caleb Swinney a fi wedi treulio wythnos yn Wcráin. Mewn gwlad mor fawr gall y lladd deimlo'n bell i ffwrdd.
O fewn awr i'r ffin gyda Rwmania yn y gorllewin roedd strydoedd cul Chernivtsi yn brysur gyda theuluoedd yn ciniawa yn yr awyr agored a thwristiaid yn tynnu lluniau o flaen neuadd y ddinas.
Mae'r rheng flaen dros 700 milltir i'r dwyrain.
Dywedodd Nadia, sy'n athrawes Saesneg, wrthai mai hon yw'r unig ddinas yn Wcráin i osgoi bomiau Rwsia. Ond hyd yn oed fan hyn does dim dianc rhag effeithiau'r rhyfel.
Dim staff - clymu plant
Buon ni'n ffilmio yng nghartref plant ym Magala lle ma' sŵn llefain yn gyfeiliant i ddyddiau undonog o hir.
Cafodd 42 o blant diymadferth rhanbarth Donetsk eu gollwng yno ym mis Mawrth gyda deuddydd o feddyginiaeth yn unig. Does dim digon o staff i roi'r gofal sydd ei angen. Does dim dewis ar adegau ond clymu'r plant bach i gadeiriau.
Rhain yw wynebau anweledig y rhyfel sydd erbyn hyn wedi para pum mis.
Tra bod ymladd dwys yn parhau yn ardal ddwyreiniol y Donbas, araf ddeffro o'i hunllef mae Kyiv. Dyma brifddinas grand a soffistigedig ond mae olion yr ymdrechion i'w hamddiffyn yn dal i fritho'r strydoedd.
Mae tai bwyta'n gosod byrddau ochr-yn-ochr â bagiau tywod ac offer atal tanciau.
'Dim golau ym mhen draw'r twnnel'
Sgrechiodd y seiren deirgwaith yn ystod ein hymweliad i rybuddio am ymosodiad posib o'r awyr. Dan ddaear mae llochesi'n barod petai angen.
Ar Sgwâr St. Michael daw llif cyson o bobl i weld casgliad o gerbydau milwrol y gelyn sydd wedi eu dinistrio a'u gosod yma'n fynwent o ddur.
Cyn-bencampwr bocsio'r byd, Vitali Klitschko, yw'r maer. Yng nghanol ei swyddfa mae model enfawr o'r ddinas mae'n gyfrifol amdani.
Mae Vitali Klitschko yn cyfaddef mewn cyfweliad arbennig ei fod yn "ofnus" pan oedd milwyr Rwsia yn agosáu at Kyiv ac yn gofidio y gallai'r rhyfel bara blynyddoedd.
"I fod yn onest…," meddai, "…dydw i ddim yn gweld golau ym mhen draw'r twnnel."
Bydd 'Wcráin: 150 Diwrnod o Ryfel' ar S4C nos Lun, 25 Gorffennaf am 20:00
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022