Miloedd o grancod yn 'dipyn o olygfa' ar draeth yn Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o gregyn crancod ar draeth Aberffraw ar Ynys Môn wedi eu disgrifio fel "ffenomenon".
Yn ôl un cerddwr oedd ar ei wyliau, roedd y crancod yn "dipyn o olygfa".
Wrth edrych yn nes, dywedodd yr ymwelwyr bod y cregyn yn wag.
Mae crancod heglog yn symud o ddŵr dwfn i ddyfroedd mwy bas bob blwyddyn er mwyn cael gwared ar eu cregyn, fel rhan o'u cylch bywyd.
Maen nhw'n dueddol o symud mewn grŵp mawr er mwyn cadw'n ddiogel.
Ar ôl gadael, mae eu cregyn yn cael eu golchi i'r lan, ac yn olygfa ddigon cyffredin ar arfordir gorllewinol Cymru, yn ôl Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, dolen allanol.
Dywedodd Richard Lee, 59 o ddwyrain Lloegr: "Roedd e'n dipyn o ffenomenon a bod yn onest.
"Wrth i ni gerdded i'r harbwr, ro'n ni'n dweud 'o, dyna granc, dyna un arall, ac un arall'.
"Roeddech chi'n cyrraedd y traeth ac roedd miloedd ohonyn nhw wedi eu gwasgaru ym mhobman.
"Roedd e'n dipyn o olygfa a bod yn onest ac roedd pawb yn siarad amdano.
"Fe wnes i dynnu fy 'sgidiau wrth gerdded ar hyd y traeth, ond roedd yn rhaid i chi fod yn ofalus iawn nad oeddech chi'n troedio arnyn nhw oherwydd roedden nhw'n grancod heglog ac yn finiog iawn, iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Medi 2020