Cymru ar y 'catwalk': Datgelu gwisg Tîm Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Tîm Cymru wedi rhyddhau lluniau o'r dillad ffurfiol bydd y tîm yn ei wisgo yn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.
Y dylunydd ffasiwn adnabyddus o Ferthyr Tudful, Julien Macdonald, yw'r dyn sydd wedi dylunio'r dillad fydd yn cael ei weld gan filiynau ledled y byd.
Mae'r ddraig goch yn cael lle amlwg ar yr ysgwydd ac mae'r ddraig hefyd yn ymddangos ar y tei swyddogol. Mae'r bathodyn pin sy'n cael ei wisgo ar y siaced wedi ei ddylunio gan gwmni gemwaith Clogau.

Mae'r ddraig i'w gweld yn amlwg ar yr ysgwydd.
Dywedodd Julien Macdonald: "Mae wedi bod yn wych i weithio ar brosiect mor bwysig a chydweithio'n agos gyda athletwyr o Dîm Cymru. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel.
"Mae'r dyluniad yn rhywbeth fyswn i'n galw'n hynod o Gymreig, gyda llawer o liwiau a symbolau sy'n cynrychioli Cymru. Mae'n rhywbeth dwi'n amlwg wedi ei fwynhau a dwi wedi ychwanegu bach o 'Julien Macdonald glamour' iddo."

Y gwibiwr dros 100m, Jeremiah Azu, yn cael ychydig o 'Julien Mcdonald glamour'.
Dywedodd Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu Tîm Cymru, a weithiodd yn agos gyda Julien ar y prosiect: "Mae wedi bod yn daith gyffrous iawn, o'r drafodaeth gychwynnol ar gydweithio, creu brïff gyda Chomisiwn Athletwyr Tîm Cymru, i weld y cynnyrch gorffenedig o'r diwedd.
"Roedd yn hollbwysig i ni fod y Comisiwn Athletwyr yn rhan o'r cydweithio â Julien a'i dîm. Nhw yw llais yr athletwyr sy'n mynd i mewn i'r gemau, a thra bod ein gwisg 'Gold Coast 2018' yn lliwgar a bywiog, roedden nhw'n hyderus y byddai gwedd glasurol a thrwsiadus yn cyd-fynd yn well â gemau Birmingham 2022."

Mae dillad Julien Macdonald yn cael ei wisgo gan sêr fel Kylie Minogue, Beyoncé a Jennifer Lopez. Derbyniodd y dylunydd anrhydedd OBE yn 2006.
"Mae wedi bod yn siwrnai gyffrous yn sicr, ac rwy'n siŵr y bydd gweithio ochr yn ochr â Julien, sydd wedi gwisgo wynebau enwocaf y byd yn cryfhau ymhellach y gefnogaeth gydd gan y tîm yn y Gemau" meddai Cathy.

Mae Tîm Cymru ar gyfer y gemau'n cynnwys 100 o fenywod a 99 dyn.
Mae Cathy Williams hefyd yn nodi cyfraniad Ben Roberts, Cyfarwyddwr Clogau, sydd wedi dylunio a chynhyrchu bathodyn pin "mor unigryw a hardd" i gyd-fynd â chynllun siwt Julien y bydd y tîm yn ei wisgo yn y Seremoni Agoriadol.
"Mae'n bendant wedi bod yn brosiect rydym wedi bod wrth ein bodd yn gweithio arno, ac mae'n rhaid i ni ddiolch i Julien, Ben a'u timau am wneud hwn yn brofiad unigryw i Dîm Cymru''
Bydd y seremoni agoriadol yn cael ei chynnal nos Iau, 28 Gorffennaf, a bydd y cystadlu'n dechrau fore Gwener, 29 Gorffennaf. Bydd y gemau'n dod i ben ar ddydd Llun, 8 Awst.

Hefyd o ddiddordeb: