Pwy fydd yn cludo baton Gemau'r Gymanwlad o amgylch Cymru?
- Cyhoeddwyd
Wrth i Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022 agosáu, mae pobl ar draws Cymru yn cael y cyfle i gludo baton y Frenhines.
Bydd y baton, sy'n teithio i 72 o wledydd a thiriogaethau'r Gymanwlad, yn dod i Gymru yn ystod y daith 294 diwrnod o hyd.
Yn ôl un mam o Geredigion fydd yn rhan o'r daith am yr ail waith, mae'n "fraint ac anrhydedd", tra bod merch arall yn dweud ei bod yn "nerfus".
Wrth i daith y baton gyrraedd Cymru, mae Cymru Fyw wedi bod yn siarad gyda rhai o'r bobl sydd wedi eu dewis i'w gludo.
Dechrau'r daith gyda Maisy
Cymysgedd o gyffro a bod yn ddiolchgar am gael ei dewis ydy ymateb Maisy o Amlwch, sy'n cludo'r baton ar y diwrnod cyntaf yng Nghaergybi.
Mi fu'n rhaid i'r ferch 13 oed gael triniaeth ddwys am ganser pan yn iau: "O'n i'n gorfod mynd i Alder Hey lot i gael triniaeth, O'dd o'n anodd, ond nes i gael drwyddo."
Wedi gwella, mi drodd ei golygon at godi arian - dros £2,000 i gyd - a dod yn llysgennad i elusen Cancer Research. Mi ysgrifennodd bamffled i helpu pobl ifanc ddeall mwy am ganser.
Yn Nadolig 2019, casglodd 136 o anrhegion i blant Ysbyty Alder Hey: "O'n i'n falch oherwydd 'di o ddim yn dda bod plant yn yr ysbyty dros Nadolig."
Gyda chwaraeon yn thema bwysig o Daith Baton y Frenhines, addas iawn felly ydy bod Maisy, sy'n llysgennad gydag Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi ei dewis.
Mae hi'n cynnal sesiynau ar Ynys Môn i annog merched i chwarae pêl-droed: "Dwi'n meddwl mae'n bwysig iawn oherwydd mae pêl-droed yn cael ei basio lot ar hogia, a mae'n dda i gael genod i wneud o."
'Braint ac anrhydedd'
Hefyd yn aros yn eiddgar i gael derbyn y baton mae Anwen Butten o Lanbedr Pont Steffan, a'i phlant Alis a Harri.
"Mae'n fraint ac anrhydedd," meddai Anwen, sy'n cario'r baton am yr eildro.
"Fi 'di 'neud e unwaith o'r blaen pan ddaeth e i Glasgow. Roedd e'n brofiad anhygoel a dwi'n siŵr y tro hyn nawr, gwneud e gyda'r plant, bydd e'n fwy special a chael gwneud e yng Ngheredigion."
Bydd y teulu'n cymryd rhan yn y daith pan mae'n cyrraedd clwb bowls Aberystwyth.
Yn ôl Anwen, sy'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad am y chweched tro eleni, mae'n "special iawn" bod bowls yn cael cydnabyddiaeth hefyd, camp sy'n bwysig iawn i'r teulu.
"Mae e'n rhywbeth fel teulu bydden ni ddim yn meddwl byddai yn digwydd i ni," meddai Alis, sydd hefyd yn bowlio'n gyson.
"Mae mam wedi 'neud e yn y gorffennol felly o'n i ddim yn meddwl byddai fe'n digwydd iddi hi 'to ond gan fod rhain yn gemau cartref unwaith eto, mae'n fraint i gael gwneud e gyda mam a fy mrawd hefyd."
Ychwanegodd: "Fi'n credu bod e'n bwysig i orllewin Cymru a'n bwysig i fowls bod pobl yn gallu gweld bod bowlio i bawb, s'dim ots beth yw'ch oedran chi, pobl ifanc ac i bobl hŷn."
Mae ei brawd, Harri, hefyd wedi bod yn chwarae bowls ers blynyddoedd.
"Fi 'di bod yn dod lawr 'ma ers o'n i'n blentyn bach gyda mam a gyda mam-gu," meddai.
"Fi 'di bod yn chwarae ers blynyddoedd ond yn yr wyth mlynedd ddiwethaf dwi 'di bod yn chwarae yn fwy cystadleuol ar y lefel uwch.
"Fi 'di bod rownd y wlad mewn Gemau Gymanwlad arall, felly mae'r ffaith bod e'n home games, bod e ym Mhrydain a'n bod ni'n gallu 'neud e fel teulu yn neis, just lawr yr hewl yn Aberystwyth 'fyd."
'Nerfus ond mor gyffrous'
Gwirfoddoli a judo yw prif ddiddordebau Deryn-Bach, 17 oed, fydd yn cludo'r baton ym Merthyr Tudful.
Mae'r fyfyrwraig Safon Uwch wedi cynrychioli Cymru mewn sawl cystadleuaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn judo i bobl ifanc â nam ar y golwg.
Efallai bod 'na heriau ynghlwm â'r cyfrifoldeb, yn ôl Deryn-Bach: "Dwi ychydig bach yn nerfus achos ma' pawb yn gwybod bo fi'n 'chydig bach o klutz felly dwi'n gobeithio dwi ddim yn cwympo, ond dwi mor gyffrous i wneud e."
Roedd ennill aur dros Gymru ym Mhencampwriaeth Judo y Gymanwlad yn 2019 yn dipyn o brofiad, yn ôl Deryn-Bach, ac yn 2021, enillodd wobr athletwr newydd y flwyddyn gan Chwaraeon Anabledd Cymru.
"Does gen i ddim just visual impairment, mae gen i autism hefyd, ond dyw e ddim yn rhywbeth sy'n stopio fi neud pethe - mae'n gwneud i fi drio mwy," meddai.
"Yn tyfu lan, a gwybod bo' fi'n wahanol i bobl eraill, doeddwn i ddim yn gwybod pam. Wedyn ges i ddiagnosis am autism pan yn 14, ond nath e ddangos i fi, ti'n gallu sefyll eto, mae e ddim yn stopio ti.
"A pan ti mewn judo os oes rhywun yn taflu ti, ti'n gallu sefyll nôl lan a trio eto.
Ychwanegodd: "Mae'n teimlo mor wych i gael fy newis i gario'r baton, achos mae mor bwysig i ddangos i bobl ti'n gallu gwneud unrhyw beth, ac mae'r baton yn symboliso hynny… ti'n gallu bod yn unrhyw un ti isie bod."
Bydd Gemau'r Gymanwlad yn cael eu cynnal rhwng 28 Gorffennaf ac 8 Awst yn Birmingham.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2022