Galw am droi holl ysgolion Cymru'n rhai cyfrwng Cymraeg erbyn 2050
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar i holl ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru fod yn rhai cyfrwng Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.
Maen nhw am i Lywodraeth Cymru osod nod statudol mai'r Gymraeg fydd iaith y gyfundrefn addysg erbyn canol y ganrif.
Mae'r Gymdeithas wedi bod yn gweithio gyda Keith Bush, Cymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, er mwyn troi ei syniadau yn "ddeddf" bosib.
Dywed Llywodraeth Cymru - sydd â tharged o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn o bobl erbyn 2050 - fod angen "camau gweithredu a newidiadau pellgyrhaeddol" i gyrraedd y nod.
Mae copi o'r ddogfen wedi dod i law rhaglen Newyddion S4C, cyn iddi gael ei chyhoeddi'n swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf.
Dyma rai o brif argymhellion y 'ddeddf':
Gosod y nod statudol mai'r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru erbyn y 1 Medi 2050, sy'n golygu y bydd pob ysgol yn un cyfrwng Cymraeg erbyn hynny;
Disodli'r cynlluniau Cymraeg mewn addysg leol gydag un fframwaith cenedlaethol fydd yn anelu at y nod statudol ac yn cael ei diweddaru bob pum mlynedd;
Atal awdurdodau lleol rhag agor ysgolion newydd sydd ddim yn ysgolion cyfrwng Cymraeg;
Sefydlu targed statudol i bob athro newydd fedru addysgu drwy'r Gymraeg, a hyfforddiant iaith i athrawon sydd yn y gyfundrefn addysg yn barod.
'Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth'
Dywedodd Catrin Dafydd, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod "cyfle unwaith mewn cenhedlaeth gan Lywodraeth Cymru a'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles".
"Mae addysg cyfrwng Cymraeg i bawb o fewn cyrraedd am y tro cyntaf erioed," meddai.
"Rydyn ni'n galw am osod mewn statud mai'r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru, gyda phob ysgol ar lwybr i roi addysg cyfrwng Cymraeg i bawb erbyn 2050."
Ond dydy'r ffigyrau a'r fframwaith i brofi sut y byddai hyn yn gweithio ddim gan y Gymdeithas eto.
"Mae'r fframwaith yn yr arfaeth. Ry'n ni wrthi," ychwanegodd Ms Dafydd.
"Ry'n ni wedi gosod nod o 2050 am ein bod ni'n gw'bod o weithredu llawer iawn o newidiadau yn y gyfundrefn bod modd sicrhau addysg Gymraeg i bawb erbyn 2050."
Ar hyn o bryd mae modd i rieni ddewis a ydyn nhw am i'w plant gael addysg Gymraeg ai peidio.
Byddai cynlluniau Cymdeithas yr Iaith yn diddymu'r dewis hwnnw.
"Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n meddwl am y Gymraeg o bersbectif plentyn canolog," meddai Ms Dafydd.
"Ar hyn o bryd cymunedau difreintiedig, mudwyr a phobl groen liw sy'n lleia' tebygol o gael cyfleoedd cyfartal ieithyddol, ac felly mae'n hen bryd dwi'n credu bod ni'n gosod mewn statud bod hi'n deg i bawb gael yr un cyfleon."
Er mwyn i gynlluniau'r Gymdeithas lwyddo, byddai angen i holl weithlu addysg Cymru fedru'r Gymraeg.
Oes peryg felly y byddai athrawon profiadol yn dewis gadael y proffesiwn?
"Dim o gwbl. Taith yw hi, hefyd cyfle i roi cyfleon ac uwch-sgilio staff," meddai Catrin Dafydd.
"Mae enghreifftiau ar draws y byd, yng Ngwlad y Basg er enghraifft, yn dangos bod modd gweddnewid sefyllfa iaith a rhoi cyfle cyfartal i bawb."
Beth ydy ymateb Llywodraeth Cymru?
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae llwyddiant Cymraeg 2050 yn gofyn am gamau gweithredu a newidiadau pellgyrhaeddol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu ein hysgolion a'n gweithlu yn eu hymgais i sicrhau mwy o ddarpariaeth Gymraeg.
"Mae'r Gymraeg wrth galon ein cwricwlwm newydd, sy'n gosod camau cynnydd clir ar gyfer datblygiad yr iaith i'r holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
"Mae angen gweithlu â'r sgiliau cywir hefyd, ac mae hynny'n golygu bod angen denu mwy o siaradwyr Cymraeg i'r proffesiwn a buddsoddi yn sgiliau iaith ein gweithlu presennol.
"Er mwyn rhoi sylw i hyn, yn ddiweddar cyhoeddwyd ein cynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg, gyda £9m i gefnogi a gweithredu'r cynllun eleni.
"Rydyn ni hefyd yn darparu mynediad am ddim i wersi Cymraeg i'r holl staff addysgu o fis Medi ymlaen."
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio ei Deddf Addysg Gymraeg yn swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau mis Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2022