Cymraeg 2050: Ar drywydd i gyrraedd miliwn?
- Cyhoeddwyd
I nodi 60 mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi ei ddarlith radio Tynged yr Iaith, Cymru Fyw sy'n cyhoeddi cyfres o erthyglau yn bwrw golwg ar sefyllfa'r iaith heddiw.
Yn y drydedd erthygl o'r gyfres, Yr Athro Colin Williams sy'n trafod strategaeth Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Gosodwyd y targed yn 2016 ond beth yw'r camau nesaf er mwyn cyrraedd y targed?
Mae Colin yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn arbenigwr ar bolisi iaith ac ar gynllunio ieithyddol.
Strategaeth
Digwyddiad hanesyddol oedd gweld Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfrifoldeb dros ffyniant y Gymraeg ac ymrwymo i ddyfeisio rhaglenni gwaith a chynigion i wireddu'r strategaeth. Mae targed o 1 filiwn yn golygu bod angen creu rhwng 100,000 a 150,000 o siaradwyr newydd bob degawd tan 2050.
Bydd angen atgynhyrchu siaradwyr Cymraeg drwy wella lefelau trosglwyddiad iaith yn y teulu, a mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn y gymdogaeth leol a'r system addysg er mwyn cynhyrchu o leiaf 1.3 miliwn o siaradwyr, gan fod cynifer yn symud o Gymru am addysg prifysgol ac am waith - yn bennaf i Loegr.
Arwyddocâd y neges o filiwn o siaradwyr yw ei fod yn neges eglur a chyraeddadwy. Mae rhaglen waith y Llywodraeth yn dangos ei bod yn gwbl ymwybodol o'r dasg a'r camau penodol sydd eu hangen yn enwedig wrth blethu diddordebau addysg ac iaith.
Mae'r cynigion am ad drefnu ysgolion a chyflwyno cwricwlwm newydd, tyfu a chryfhau dilyniant mewn addysg cyfrwng Gymraeg, cyflwyno mwy o oriau dysgu Cymraeg fel pwnc ac fel cyfrwng mewn ysgolion a ddynodir yn Ysgolion Dwy Iaith, oll yn adlewyrchu'r ymrwymiad i gynyddu cyfleoedd a phrofiadau addysgiadol.
Camau nesaf
Mae'n debyg y bydd y Llywodraeth yn gosod y drefn newydd o gategoreiddio yn y Bil ar gyfer Addysg Gymraeg maent yn bwriadu ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf. Byddai hynny'n cryfhau sefyllfa Addysg Gymraeg yn sylweddol ac yn debyg o wella sgiliau a chryfhau potensial yr iaith.
Bydd angen hyfforddi llawer mwy o athrawon o'r newydd i ddysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg drwy bob cyfnod allweddol a chryfhau'r Cynllun Sabothol ynghyd â sefydlu mwy o Ganolfannau i Hwyrddyfodiaid. Ond bydd rhai yn poeni am natur a safon y Gymraeg ar wefusau nifer helaeth a addysgir o dan y gyfundrefn newydd.
Mae'r Llywodraeth eisoes wedi cynllunio nifer o ffyrdd i wella cyfleoedd ac i ddylanwadu ar ymddygiad ieithyddol. Oherwydd ein dull cydweithredol o weithio mae nifer o gyrff a sefydliadau yn awyddus i gyd-berchnogi'r neges am ddau reswm, un ydy'r gydnabyddiaeth fod y Llywodraeth o ddifri parthed hyrwyddo'r Gymraeg a'r ail yw'r ddealltwriaeth mai hwy fydd y modd o gyflawni hwn ac felly yn debyg o dderbyn nawdd a grantiau ychwanegol i ehangu eu gwaith.
Erys problemau a gwendidau am ein bod yn nyddiau cynnar rhaglen gwaith a gwerthusiad y Llywodraeth, heb sôn am ymateb tymor hir ein cymunedau i'r her.
A yw'r targed o filiwn mor bwysig â hynny?
Ydy - yn bennaf am yr ysgogiad i greu disgwrs newydd a momentwm cynyddol. Bydd y byd yn dra gwahanol erbyn 2050 yn enwedig o ran ffyrdd newydd o gyfathrebu a defnydd mwy soffistigedig o dechnoleg gwybodaeth a fydd yn hwyluso ein hymwneud awtomatig a sefydliadau a'r economi.
Ond mae 'na gryn ansicrwydd a fydd y cynnydd yn cryfhau neu yn gwanhau'r Gymraeg fel iaith bob dydd. Bydd nifer yn poeni am safon yr iaith ymysg y siaradwyr newydd a'r awydd a fydd ganddyn nhw i ddefnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyffredin, boed hynny yn y gweithle neu'n gymdeithasol.
Y sialens anoddaf fydd newid arferion iaith hanesyddol siaradwyr Cymraeg. Gwelwyd rhai camau gan y Llywodraeth gan gynnwys rhaglen i ddylanwadu ar ymddygiad ieithyddol drwy godi ymwybyddiaeth, cynnig cyfarwyddyd hyfforddiant i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus a phreifat ac ymyrryd yn y bensaernïaeth dewis.
Safon byw
Ond wrth ystyried dyfodol yr iaith a'i chyd-destun yn nhermau holistaidd mae'n amlwg y bydd angen sicrhau ffyniant economaidd cynaliadwy a denu lawer mwy o swyddi i wella safon byw'r genedl. Er mor bwysig yw polisïau ieithyddol mae datblygiadau economaidd, prif rhaglenni ffrydio'r Llywodraeth a newidiadau deddfwriaethol yn pwyso'n drwm ar ein gallu i gyrraedd y prif darged.
Mae rhaglen ac effaith mesurau fel Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, rhaglenni i leihau tlodi ac anghyfartaledd yn hynod o bwysig fel y bydd strategaethau tai a datblygiad rhanbarthol yn y dyfodol.
Iaith bob dydd
Yn sicr mae'r disgwrs wedi newid ers cyhoeddi strategaeth cyrraedd miliwn o siaradwyr. Bydd rôl y cyfryngau, asiantaethau a chyrff megis Y Comisiynydd Iaith, y sector Addysg Uwch yn allweddol i greu is-strwythur cynhaliol a fydd yn cynnal nifer o gyfleoedd newydd ac yn peri i'r Gymraeg fod yn rhan annatod o fywydau llawer mwy o'n dinasyddion.
Ond yn bwysicach fyth bydd creu sefyllfa lle mae pobl yn awyddus i ddewis defnyddio'u Cymraeg yn eu teuluoedd, yn eu cymunedau a'u gweithleoedd, bydd hynny'n allweddol i ffyniant yr iaith. Ydi, mae cyrraedd y miliwn yn darged effeithiol ond mae cael llawer mwy o bobl i siarad Cymraeg yn eu bywydau bob dydd yn bwysicach fyth.
Hefyd o ddiddordeb: