'Gormod o rwystrau o hyd i addysg Gymraeg' - Jeremy Miles

  • Cyhoeddwyd
plantFfynhonnell y llun, PA

Mae gormod o rwystrau o hyd i addysg cyfrwng Cymraeg, yn ôl Gweinidog y Gymraeg.

Dywedodd Jeremy Miles ein bod ni "wedi mynd mor bell ag y gallwn o fewn fframwaith presennol y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg".

Roedd yn siarad yn y Senedd am gynlluniau strategol newydd Cymraeg mewn addysg, sef cynlluniau yr awdurdodau lleol i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf.

Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru fod angen "herio" rhai o'r cynlluniau sydd, meddai, ddim yn ddigon "uchelgeisiol".

Yn ôl cerrig milltir strategaeth 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr', mae Llywodraeth Cymru am i 26% o ddysgwyr blwyddyn 1 gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2026, gyda hynny'n codi i 30% erbyn 2031.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth "wedi mynd mor bell ag y gallwn o fewn fframwaith presennol y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg" medd Jeremy Miles

Dywedodd Mr Miles bod "rhai awdurdodau wedi mynd ymhellach hyd yn oed ac wedi gosod targedau sy'n rhagori ar ein disgwyliadau".

Ymhlith yr ymrwymiadau yn y cynlluniau, mae sefydlu 23 ysgol gynradd Cymraeg newydd ac ehangu 25 ysgol gynradd Gymraeg dros y 10 mlynedd nesaf, gyda chronfa o £76 miliwn "sydd wedi'i wario neu ei ddyrannu ar gyfer ysgolion newydd ac ehangu ysgolion".

Bydd y 23 o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd yn cael eu dosbarthu ymhlith 15 o'r cynghorau lleol.

Dywedodd Mr Miles y bydd y cynlluniau'n "cael eu cyhoeddi maes o law, wedi iddyn nhw gael eu cymeradwyo'n swyddogol".

'Rhaid herio'

Ar ran Plaid Cymru, mynegodd Heledd Fychan bryder am gynghorau "sydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddim yn cyrraedd y targedau hynny".

Dywedodd ei bod wedi darllen rhai o'r cynlluniau drafft ar wefannau cynghorau sir a'i bod o'r farn "nad ydy pob un yn uchelgeisiol, a dwi'n meddwl bod yn rhaid herio hynny".

Ychwanegodd: "Rydych chi wedi dweud bod cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn mynd mor bell ag sy'n bosib ar y funud, ond onid oes yna ffyrdd y gallem ni gryfhau hynny drwy ddeddfu, drwy fod yn cosbi'r awdurdodau hynny lle mai geiriau gwag ydy eu hymrwymiadau i'r Gymraeg, nid ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau mynediad cydradd?"

'Angen athrawon'

Ar ran y Ceidwadwyr, fe wnaeth Samuel Kurtz groesawu "cyfeiriad cyffredinol" y cynlluniau.

Ond, dywedodd: "Os yw'r ysgolion newydd hyn i gael eu hadeiladu, bydd angen eu staffio hefyd.

"Gan gymryd y 23 o adeiladau newydd, ac anwybyddu'r 25 o ehangiadau, yn ogystal â gofynion newydd y Cwricwlwm i Gymru i gynyddu addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, bydd angen cannoedd o athrawon newydd sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl.

"Sut y cyflawnir hyn, a sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau bod gennym ystod dda o athrawon o wahanol gefndiroedd a gyda gwahanol brofiadau bywyd? A oes unrhyw ystyriaeth wedi'i roi i sut i ddenu myfyrwyr aeddfed i addysgu?"

Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg y bydd angen recriwtio athrawon ychwanegol.

Cyfeiriodd at y cynllun gweithlu addysg 10 mlynedd a dywedodd: "Byddwn ni'n edrych bob dwy flynedd ar beth yw'r sefyllfa gyfredol, fel ein bod ni'n cadw trac mewn amser go iawn ar y llwyddiant i recriwtio rhifau mwy".

'Mwy i wneud'

Dywedodd Jeremy Miles wrth y Senedd, "bydd rhai fydd yn dweud nad yw'r cynlluniau strategol yn ddigon uchelgeisiol, ond rhaid cofio'r siwrnai ry' ni wedi bod arni, beth ry' ni wedi'i ddysgu.

"Ry' ni wedi cyflawni llawer, ond dwi'n gwybod bod mwy y gellir ac y mae angen ei wneud i sicrhau gwell mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd lle mae ei angen fwyaf.

"Mae gormod o rwystrau o hyd i addysg cyfrwng Cymraeg ac mae gormod o blant yn colli cyfleoedd i gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a dod yn siaradwyr dwyieithog hyderus a mwy.

"Ry' ni wedi mynd mor bell ag y gallwn o fewn fframwaith presennol y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg. Bydd gwelliannau pellach i'r fframwaith hynny yn cael eu hystyried fel rhan o waith cwmpasu ar Fil addysg y Gymraeg."