Gwobrwyo'r cyntaf i gwblhau cwrs iaith Gymraeg byd amaeth
- Cyhoeddwyd
Bydd y myfyrwyr cyntaf i gwblhau cwrs newydd i helpu pobl yn y sector amaeth ddysgu Cymraeg yn cael eu gwobrwyo yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ddydd Mercher.
Fe ddangosodd gwaith ymchwil Iaith y Pridd gan Cyswllt Ffermio a Menter a Busnes yn 2020 bod yna awydd i ddysgu'r iaith ymysg ffermwyr di-Gymraeg.
Roedd awgrym hefyd y byddai gweithwyr yn y sector gyflenwi a gwasanaethau amaethyddol yn gweld defnydd ymarferol a gwerth masnachol i allu siarad Cymraeg.
O ganlyniad, yn gynharach eleni fe gafodd cwrs blasu newydd 10 awr ei sefydlu, wedi ei deilwra ar gyfer y sector, ac mae dysgwyr yn gallu ei ddilyn ar eu cyflymder eu hunain.
'Pwysig i fi gael yr iaith'
Un sy'n gefnogol i'r syniad yw Cheryl Evans, sydd bellach yn ffermio yn ardal Llanilar ym mro yr Eisteddfod.
Mae hi o deulu di-Gymraeg ond fe gafodd hi addysg Gymraeg yn ei hysgol leol yn Llanfair Caereinion.
Ar ôl hynny chafodd hi "ddim cyfle i ddefnyddio llawer o'r Gymraeg", meddai, ond ers priodi a magu teulu yn ardal Llanilar mae hi wedi penderfynu ailafael yn yr iaith.
"Nes i ddechre trwy siarad â Gethin fy ngŵr a defnyddio mwy o'r Gymraeg ac ymarfer yr iaith gyda phobl yn yr ardal wedyn.
"Os oes rhywun mo'yn siarad Cymraeg â fi, fi yn siarad Cymraeg â nhw wedyn.
"Mae llawer o'r rhieni - yn enwedig y mamau fi'n 'nabod o'r ysgol - yn dod o ardaloedd eraill a heb gael unrhyw Gymraeg, ond ma' llawer yn trio.
"Rwy'n dweud wrthyn nhw am fynd i 'neud cyrsiau i gael bach o basics tu ôl iddyn nhw.
"Mae'n really bwysig i fi gael yr iaith, yn enwedig gyda'r plant Alys a Lloyd yn mynd i Ysgol Gynradd Llanilar ac yn dysgu Cymraeg."
'Hoffi clywed ni'n siarad Cymraeg'
Mae gan Cheryl a'i gŵr Gethin fusnes gwyliau ac mae hi'n dweud ei bod wedi gweld fod y Gymraeg yn help mawr iddi gyda'i busnes.
"Mae pobl sy'n dod yma â diddordeb yn yr iaith, ac maen nhw wir yn hoffi clywed ni'n siarad Cymraeg," meddai.
Mae annog a helpu mwy o bobl fel Cheryl i ddefnyddio a dysgu Cymraeg yn un ffordd y gall y gymuned amaeth helpu i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ôl Iaith y Pridd.
Cyswllt Ffermio - cynllun gan Lywodraeth Cymru i adfywio cymunedau gwledig a chefnogi'r byd amaeth - a Menter a Busnes oedd yn gyfrifol am yr ymchwil.
Mae'n nodi fod cynlluniau dysgu Cymraeg ar-lein a gogwydd amaethyddol yn ffordd dda o "warchod ac ymestyn y Gymraeg mewn cylchoedd amaethyddol".
'Amaeth yn fyd prysur'
Dona Lewis yw dirprwy brif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gyda'r cyfrifoldeb dros gynllun Cymraeg Gwaith o fewn y ganolfan.
Dywedodd fod gan y ganolfan "nifer o gyrsiau wedi eu teilwra ar gyfer gwahanol sectorau a galwedigaethau gan gynnwys amaeth, ac maen nhw'n gyrsiau hunan astudio sy'n caniatáu i bobl eu gwneud ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw".
"Mae'r sector amaeth yn fyd prysur felly mae'r cyrsiau ar gael unrhyw bryd sy'n gyfleus iddyn nhw."
Yn ôl Menter a Busnes mae'r sector amaeth yn gadarnle i'r iaith Gymraeg, gyda chanran y siaradwyr Cymraeg yn y sector amaeth dros ddwbl y cyfartaledd cenedlaethol - 43% o'i gymharu â 19%.
Maen nhw'n dweud bod diddordeb i ddysgu Cymraeg o fewn y diwydiant.
Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr datblygu Menter a Busnes: "Mae'r ymateb wedi bod yn dda, a bydden ni yn gobeithio y bydd pobl sy' wedi gneud y cwrs blasu yn symud 'mlaen nawr at y cam nesa' yn y broses o ddysgu'r iaith, ac i ymarfer y Gymraeg.
"Fi'n cofio rhywun yn dweud un tro, os bydde pob un ohonom ni sy'n siarad Cymraeg yn perswadio un person arall i ddysgu'r iaith, bydde hynny'n gwneud cymaint o wahaniaeth wrth geisio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022