Eisteddfod Arwyn 'Herald': 40 mlynedd o dynnu lluniau
- Cyhoeddwyd
Heblaw am y Pafiliwn a'r Babell Lên, mae'n debyg mai un o'r golygfeydd mwyaf cyfarwydd ar unrhyw faes Eisteddfod dros y 40 mlynedd diwethaf yw Arwyn 'Herald' Roberts a'i gamera.
Rhwng 1979 a 2019 mynychodd bob un Eisteddfod Genedlaethol o Fôn i Fynwy, wrth groniclo hynt a helynt cystadlaethau'r llwyfan i amryw o bapurau newydd y gogledd.
Aeth ymlaen i gael ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod 2005, a hynny ar stepan ei ddrws ar Stad y Faenol, nepell o'i gartref yn Rhosgadfan ger Caernarfon.
Yn cydnabod fod y brifwyl wedi chwarae rhan mawr o'i yrfa newyddiadurol, ac hefyd hawlio lle mawr yn ei galon, ar gyfer Cymru Fyw mae Arwyn wedi edrych yn ôl dros 40 mlynedd o luniau gan ddewis rhai o'i ffefrynnau.
Mae'r Eisteddfod wedi bod yn blatfform i gymaint o dalentau ifanc dros y blynyddoedd, ac mae wedi bod yn fraint i mi allu rhannu rhai o'u llwyddiannau.
Ond efallai hyd yn oed yn bwysicach, mae'r Eisteddfod hefyd yn le sy'n cadw Cymreictod a'r diwylliant Cymraeg i fynd.
Mae wedi bod yn fraint bod yn ran ohono dros 40 mlynedd ac mae wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd, ac mae'n hawlio lle mawr yn fy nghalon.
Gwneud argraff
Dwi'n cofio Gwyn Hughes Jones yn cystadlu yn Eisteddfod Porthmadog yn 1987, yn hogyn ifanc o dan ei 21 oed ar y pryd.
Ond sbïwch lle mae o erbyn heddiw? Er hynny mae o wastad wedi bod yn hen hogyn iawn.
Dwi 'di gweld sawl artist dros y blynyddoedd sydd wedi mynd ymlaen i fod yn adnabyddus yn fyd eang, sy'n deimlad braf ac yn destun balchder.
Siwrnai i'r brig
Dyma'r ail Goron i Jim Parc Nest ei hennill o fewn cyfnod byr iawn, a'r cam cyntaf ar ei daith i fod yn Archdderwydd.
'Nath o'm yn rhy ddrwg yn y pendraw naddo?!
Cartref newydd
Eisteddfod Porthmadog 1987 oedd yr olaf i ddefnyddio'r hen bafiliwn, a roedd dal yn sefyll yno wedi'r Eisteddfod am tua wyth mlynedd dwi'n siŵr.
Dros y blynyddoedd mi alla'i gyfri naw pafiliwn o wahanol siâp a lliw sydd wedi eu defnyddio, o sied wartheg i Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd!
Gwlad y Rwla
Dyma Angharad Tomos wedi iddi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Bro Delyn 1991.
Os dwi'n cofio'n iawn mi fuodd na ymgyrch Cymdeithas yr Iaith ar y maes yn gynharach yn y diwrnod, ac mi oedd na farc cwestiwn os byddai'n gallu mynychu'r seremoni o gwbl.
Drwy lwc mi aeth bob dim yn iawn yn y pendraw!
'Dy batsh di'
Ar gae y Sioe Frenhinol oedd Eisteddfod Genedlaethol 1993, oedd 'chydig yn wahanol. Dwi'n cofio'n iawn mai'r beirniad ar gyfer y gadair y flwyddyn honno oedd Gerallt Lloyd Owen.
Tra'n disgwyl i'r seremoni ddechra' mi es allan o'r pafiliwn a dyna lle oedd Gerallt yn cael smôc.
"Be ti'n da yma?", medda fo wrtha'i, "Dos i fewn rŵan, mae 'na hogyn o dy batsh di wedi curo!"
Yn sicr i chi mi es i fewn a roeddwn wrth fy modd i weld fod Mai Mac wedi curo. Dwi'n siŵr mai fo oedd un o'r ieuengaf, os nad yr ieuengaf, i gyflawni hynny ar y pryd.
Peiriant cynhyrchu talent
Dwi 'di dilyn Glanaethwy, Ysgol Glanaethwy erbyn hyn wrth gwrs, ers yr 1980au.
Mae 'na dalentau ifanc cryf wedi bod drwy Glanaethwy dros y blynyddoedd, a dwi'n cofio mynychu eu sesiwn ymarfer gyntaf yng Ngholeg Normal, Bangor.
Fydda'i wrth fy modd gweld talentau yn datblygu ac yn mynd ymlaen i wneud enw iddyn nhw eu hunain ar draws sawl maes.
Canwr y Byd
Dwi'n 'nabod Emyr ers mae o'n ddim o beth, ac mae ei lais wedi datblygu gymaint dros y blynyddoedd.
Dyma fo yn Eisteddfod Genedlaethol 2016, erbyn hyn wedi mynd ymlaen i ennill cystadleuaeth Canwr y Byd yn Llangollen wrth gwrs.
Mae o'n hogyn hyfryd, annwyl dros ben ac allaf ond feddwl am ei ewyrth a'i ffan pennaf, y diweddar Huw Tacsi o Lanwnda, bob tro fyddai'n ei glywed.
Bachgen o Bant Glas
Mae'r llun yma o 1987, sef yr Eisteddfod olaf i Bryn Terfel gystadlu ynddi cyn mynd ymlaen i wneud enw i'w hun yn fyd eang wrth gwrs.
Dwi'n ei 'nabod ers oedd o'n 16 oed ac yn brif ddisgybl Ysgol Dyffryn Nantlle ac yn ffeindio'i draed ar lwyfan yr Urdd a'r Genedlaethol.
Mae ei wreiddiau'n parhau'n ddyfn yn yr ardal lle'i fagwyd.
Y byd a'r betws
Fe wnaed i ffwrdd 'efo seremoni Cymru a'r Byd rhai blynyddoedd yn ôl bellach, ond roedd yn gyfle i bobl o bob cwr o'r byd i ddod 'adra' fel petai.
Dwi yn meddwl fod o'n golled i raddau, er fod rhai yn teimlo fod o wedi cyrraedd diwedd ei oes.
Dwi'n cofio un flwyddyn, pan oeddan nhw'n galw allan yr Unol Daleithiau - oedd wastad gyda mwy o ymwelwyr na unrhyw wlad arall - a welish i rhywun oeddwn yn ei adnabod yn iawn yn sefyll i fyny 'efo'r gweddill.
Wna'i ddim enwi'r person, ond nes i ofyn iddyn nhw wedyn pam oeddan nhw yn esgus dod o America, yr ateb oedd: "Wel, fues i yna am fis do?!"
Brwydr y bandiau
Un o uchafbwyntiau penwythnos cynta'r Eisteddfod ydy'r cystadlaethau bandiau pres.
Ers talwm mi oedd 'na bafiliwn o fewn pafiliwn, gyda'r beirniaid yn eistedd mewn rhyw fath o portaloo fel na allan nhw weld pwy oedd y band ar y llwyfan, ond mae'r drefn yna wedi diflannu bellach.
Er hynny mae'r bandiau yn parhau i chwarae rhan annatod o benwythnos cynta'r Eisteddfod ac yn denu pobl fysa ddim o bosib yn mynychu'r Eisteddfod o gwbl fel arall.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020