Eisteddfod: Tregaron yn 'le perffaith' i gynnal y Brifwyl
- Cyhoeddwyd
Wedi dwy flynedd hir o aros, mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyrraedd Ceredigion.
Ar ôl gorfod gohirio'r ŵyl oherwydd y pandemig, gall y rheiny sy'n bwriadu gwneud y daith i Dregaron ddisgwyl croeso cynnes gan y Cardis.
Hon fydd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ar faes arferol ers 2019, a'r tro cyntaf i'r Brifwyl ymweld â thref fach Tregaron hefyd.
Y gobaith yw y bydd dros 150,000 o bobl yn ymweld â'r maes yn ystod yr wythnos.
Yn ôl Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, Ifan Davies, mae'r Eisteddfod yn gyfle euraidd i gael ychydig o normalrwydd wedi cyfnod heriol.
"Ni'n cael y cyfle nawr yma yn Nhregaron ac yng Ngheredigion i roi pethau'n iawn, fel petai, ac i roi'r drefn yn ôl fel y mae hi fod", meddai.
"Beth sy'n unigryw am Dregaron, mae e yng nghanol Cymru. I ddweud y gwir, dwi'n credu bod e'n le perffaith i gael yr Eisteddfod Genedlaethol."
Teimlad 'gwahanol' i'r maes
Mae'r Eisteddfod yn agor yn swyddogol nos Wener, ac yn ôl y Prif Weithredwr, Betsan Moses, mae yna deimlad ychydig yn "wahanol" i'r maes eleni.
Dywedodd Ms Moses: "Mae pob Eisteddfod yn esblygiad o'r un cynt. Ry'n ni wedi gwneud newidiadau… Mae'r ganolfan groeso ar ei newydd wedd ac mae yna fwrlwm gŵyl yma.
"Mae 'na hefyd bethau ychwanegol, mae gyda ni brosiect dadeni, y cyfle i ddod yn ôl at ein gilydd ac mi fydd 'na ddigwyddiadau na welwyd mo'i bath o'r blaen."
Er yr holl gyffro, mae'r gwaith paratoi wedi bod yn anodd ar adegau, gyda phob math o heriau yn wynebu'r pwyllgor, yn ôl Ms Moses.
"Mi oedd Brexit yn ffactor o ran y diwydiant digwyddiadau ond hefyd mi oedd Covid," meddai.
"Mae Covid wedi golygu bod nifer o gontractwyr wedi gorfod arallgyfeirio ac felly mae criwiau wedi gadael.
"Mae'r mwyafrif o bobl sy'n gweithio yn y maes digwyddiadau yn llawrydd ac wrth gwrs, mi ddiflannodd y gwaith ac fe wnaethon nhw ddarganfod gwaith amgen, ac felly nid pawb sydd wedi dod nôl. Mae wedi bod yn hynod heriol."
Tocynnau am ddim
Mae tocynnau am ddim wedi eu cynnig i bobl ddifreintiedig a ffoaduriaid, a bydd plant dan 12 hefyd yn cael mynediad am ddim dros y penwythnos.
Roedd trefnwyr wedi dweud bod tocynnau am ddim wedi eu hawlio ar gam, ond mae'r Eisteddfod bellach yn dweud bod pawb oedd i fod i gael tocyn wedi eu derbyn.
Ychwanegodd Ms Moses: "Yn anffodus, mi wnaeth rhai rannu côd na ddylai fod wedi mynd ond i'r bobl o'dd yn gymwys.
"Mi wnaeth y côd fynd ymhellach nag o'n i wedi ei ddisgwyl, mi aeth e ar hyd Cymru.
"Mi wnaeth rhai hefyd dwyllo'r system, ond yr hyn sy'n bwysig yw, bod pobl yn cael cyfle i fwynhau'r Eisteddfod a bod pobl yn sylweddoli, mi oedd y ticedi ar gyfer pobl ddifreintiedig, ffoaduriaid, pobl oedd yn cael cyfle i brofi'r Eisteddfod am y tro cyntaf."
Teithio a thrafnidiaeth
Mae paratoadau hefyd wedi cael eu gwneud ar gyfer teithio i'r Eisteddfod, gyda systemau un ffordd yn cael eu cyflwyno.
Yn ôl y Cynghorydd Ifan Davies, mae'r system yn un "hwylus", cyhyd a bod pawb yn dilyn y drefn.
Dywedodd: "Mi fydd y traffig lawer trymach, mae'n rhaid i chi ganiatáu fwy o amser i ddod ond dydy traffig y de a'r gogledd ddim yn taro'i gilydd ac mae yna ddigon o le i barcio, lle i 6,000."
Mae'n cynghori pobl hefyd i ddilyn yr arwyddion 'Eisteddfod' melyn, sydd i'w gweld o ba bynnag gyfeiriad y byddwch yn teithio.
Bydd gwasanaethau masnachol gan gwmnïau bysiau lleol hefyd yn rhedeg yn ystod yr wythnos i'r maes, gyda theithiau o Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron.
Yn wahanol i rai Eisteddfodau, mi fydd y maes ei hun o fewn pellter cerdded i'r dref eleni hefyd, sydd wedi apelio'n fawr at bobl busnes Tregaron.
Yn dathlu dros 50 mlynedd ers sefydlu ei busnes eleni, dywedodd Rhiannon Evans ei bod yn gobeithio creu argraff.
"Ni'n gweithio'n galed iawn i drio denu pobl i Dregaron achos dyw e ddim y math o le mae pobl yn digwydd mynd trwyddo, ond fi'n credu nawr os ddaw pobl lawr o faes yr Eisteddfod, fyddan nhw'n darganfod pethau am Dregaron a gobeithio dawn nhw nôl yn y dyfodol wedyn."
Yng nghalon y dref mae gwesty'r Talbot, ac er eu bod yn edrych ymlaen i groesawu pobl, mae'r is-reolwr Catrin Davies yn dweud bod staff yn teimlo'n nerfus.
"Ni heb really brofi rhywbeth fel hyn o'r blaen" meddai. "Ni 'di cael Tregaroc ond ma' hwnna lot, lot llai…
"Ni 'di trial ffeindio gymaint o staff a phosib a ma' lot o bobl leol neu berthnasau staff yn barod i helpu ni… Ma' fe'n mynd i fod yn her ond ni'n barod."
Ynghyd â siopau a bwytai, mae eitemau diddorol yn ymwneud â'r Eisteddfod hefyd i'w gweld yn y dref.
Yng Nghanolfan Dreftadaeth Tregaron, gallwch weld arddangosfa newydd sy'n coffau ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal.
Ymhlith yr eitemau sydd i'w gweld mae coron a enillwyd gan y parchedig W.J. Gruffydd yn Eisteddfod Pwllheli 1955, cyn-ddisgybl o Ysgol Tregaron a chyn-archdderwydd.
Pwrpas yr arddangosfa yn ôl Cyril Evans o'r ganolfan yw "rhoi hanes a syniad i bobl am yr Eisteddfod".
"Mae rhai ymwelwyr sy'n ymweld â Thregaron a'r ardal ddim yn gwybod beth yw'r Eisteddfod, felly mae 'na lawer iawn o addysgu wedi bod trwy gyfrwng yr eitemau sydd gyda ni i arddangos."
Mae hefyd digon i'w weld ar draws cymunedau'r sir - yn arwyddion, yn furluniau, yn fwganod a'n ddreigiau, mae nifer o gymunedau wedi mynd ati i roi stamp eu hunain ar yr Eisteddfod.
"Mae bach o bawb wedi dod at ei gilydd", meddai Owen James, fuodd ynghlwm â chreu'r ddraig yn Lledrod.
"Mae'r bobl ddi-Gymraeg wedi helpu lot gyda ni a [mae e] wedi tynnu sylw at yr Eisteddfod, dwi'n meddwl… Mae lot o bobl wedi bod fan hyn yn tynnu lluniau a gofyn 'beth sydd ymlaen'?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022