Eisteddfod: Parcio a thraffig yn bryder i fusnesau ardal Tregaron
- Cyhoeddwyd
Dyw trefniadau parcio a thraffig Tregaron adeg yr Eisteddfod Genedlaethol "ddim yn ddigon" yn ôl perchennog busnesau.
Wrth i'r ardal baratoi i gynnal y brifwyl, sy'n agor nos Wener, mae rhai wedi codi cwestiynau am lefydd parcio a threfniadau traffig yn ystod yr ŵyl.
Er ei bod yn gobeithio elwa wrth i ymwelwyr heidio i'r dref, dywedodd perchennog cigydd a chaffi bod prinder lle parcio i staff ac ymwelwyr yn "bryder".
Dywedodd perchennog busnes glanhau ffenestri y bydd yn osgoi'r ardal yn llwyr dros y cyfnod gan nad oes "unrhyw gyfathrebu" wedi bod.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod eu bod wedi gweithio gyda'r cyngor sir a'r gwasanaethau brys i greu trefniadau sy'n lleihau traffig ac yn sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Bydd system unffordd yn rhedeg trwy dref Tregaron a maes parcio yn cael ei ddefnyddio yn hytrach na pharcio yn y prif sgwâr ac ar y ffordd.
Yn ôl Annwen Evans, 29, perchennog siop goffi Y Banc a Chigydd Evans, mae prinder llefydd parcio yn "bryder".
"Fi ddim yn credu bod y Steddfod wedi creu digon o barcio i bobl yr ardal. Does dim digon o le a dyw e ddim really yn ddigon da," dywedodd.
"Gyda'r amount o bobl sy'n mynd i ddod mewn, ma' pob holiday let yn llawn, bydd lot mwy o geir, carafans yn dod drwyddo.
"Os chi'n dod â rhywbeth massive i dref mor fach, mae eisiau mwy o le, nid llai o le parcio.
"Mae'n bach o worry. Lle ni'n gallu ca'l staff mewn, lle ma' nhw'n mynd i barcio?
"Mae lot o bobl hŷn yn gorfod gyrru lawr. Maen nhw'n mynd i gael eu heffeithio."
Er ei bod wedi mynychu cyfarfod gyda phobl leol a'r Eisteddfod, ychwanegodd nad yw wedi derbyn llawer o rybudd am y trefniadau newydd.
"Dwi'n byw ar y prif stryd, mae dau fusnes gyda fi, a dim ond echddoe [dydd Sul] ges i lythyr drwy'r drws yn dweud bo' fi ddim yn gallu parcio 'na.
"Mae 'na le mewn maes parcio ochr arall y dre, ond does dim allocated spaces, felly ma' hwnna'n mynd i fod yn drafferth."
Ond, ychwanegodd Annwen ei bod yn gobeithio elwa o fwy o gwsmeriaid newydd ac ymwelwyr fydd yn cerdded o faes yr Eisteddfod i'r dref.
Mae Peter Billing yn berchen ar fusnes glanhau ffenestri yn yr ardal.
Pan ofynnwyd iddo os oedd wedi derbyn gwybodaeth am y trefniadau, dywedodd: "Pa gyfathrebu? Dwi ddim wedi clywed unrhyw beth. Dim ond trwy ddigwydd gweld neges ar Facebook."
Dywedodd y bydd yn osgoi Tregaron yn llwyr oherwydd y system unffordd a'r traffig ar y ffyrdd.
"Mae'n mynd i effeithio arna' i. Bydd yn rhaid i fi osgoi Tregaron," meddai.
"Bydda i'n canolbwyntio ar ardal Aberystwyth ond mae'r junction i'r brif heol yn Llanfarian yn mynd i fod yn nightmare.
"Mae gymaint o draffig yn mynd i fod ar yr heol 'na i Aberystwyth a 'nôl, dwi'n gobeithio bydd yr heddlu neu rhywun yn trio ei reoli."
Yn Llanbedr Pont Steffan, bydd llai o barcio ar brif ffyrdd yno hefyd er mwyn lleddfu ar dagfeydd.
Dywedodd Leon Holmes, sy'n berchen ar siop trin gwallt Y Barbwr, fod gan bobl yr ardal a pherchnogion busnesau "deimladau cymysg".
"Ma' lot o bobl wedi bod yn siarad am biti fe, y ffaith bod ni'n colli lot o'r parcio am ddim a'r llefydd am gyfnod byr," dywedodd.
"Nawr, bydd lot o bobl leol yn gorfod talu a 'na pam ma' pobl yn grac.
"Ma' mixed emotions am yr holl beth really. Ar un llaw, bydd mwy o bobl yn dod drwy'r dref ac yn gweld ni, ond wedyn achos y traffig a'r parcio falle bydd cwsmeriaid yn cadw draw."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod mai ceisio rheoli traffig yw nod y trefniadau.
"Mae'r Cyngor Sir, y gwasanaethau brys a'r Eisteddfod wedi bod yn gweithio ar gynllun rheoli traffig dros y misoedd diwethaf, sy'n cynnwys system unffordd a newidiadau i gyfleoedd parcio ar y stryd," meddai.
"Bwriad y cynllun yw torri i lawr ar dagfeydd, a sicrhau bod Tregaron yn ddiogel ar gyfer trigolion lleol ynghyd â'r miloedd o ymwelwyr a fydd yn heidio i'r ardal, ac mae'n rhaid cyflwyno rhai newidiadau dros-dro i systemau teithio a pharcio'r dref er mwyn sicrhau hyn."
Ychwanegodd y bydd mannau parcio amgen ar gyfer "rhai o drigolion a pherchnogion busnesau'r dref" a dywedodd y llefarydd bod yr Eisteddfod wedi cysylltu gyda phawb sy'n cael eu heffeithio.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn cydweithio gyda'r Eisteddfod i roi'r "trefniadau pwrpasol ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd, dolen allanol yn y cyfnod cyn, yn ystod, ac ar ôl y brifwyl".
"Cynghorir gyrwyr i wirio pa gyfyngiadau parcio fydd ar waith yn yr ardal, dolen allanol a dilyn yr arwyddion a'r cyfarwyddiadau fydd yno i dywys pawb yn hwylus ar hyd y ffyrdd yn ystod y cyfnod hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2022