Apêl i osgoi teithio ar drenau wrth i streic barhau

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd gwybodaeth yng ngorsaf Caerdydd Canolog
Disgrifiad o’r llun,

Bwrdd gwybodaeth yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn ystod diwrnod o weithredu diwydiannol ddydd Mercher

Mae teithwyr yn wynebu diwrnod arall o drafferthion mawr ar y rheilffyrdd gyda llai o wasanaethau nag arfer yng Nghymru o ddydd Sadwrn tan fore Sul.

Bydd aelodau undeb y gyrwyr trên, Aslef, sy'n gweithio i saith o gwmnïau, ar streic am 24 awr yn sgil anghydfod dros eu cyflogau.

Roedd tua 40,000 o weithwyr rheilffordd sy'n perthyn i undeb yr RMT at streic ddydd Mercher.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio y gallai'r streic achosi newidiadau a chanslo gwasanaethau ar fyr rybudd.

Mae'r corff sy'n gyfrifol am wasanaethau trên yng Nghymru yn annog pobl "ond i deithio ar drên os oes rhaid" gan fod llai o deithiau cwmni Great Western Railway rhwng Abertawe a Chasnewydd.

Dywedodd hefyd bod disgwyl i wasanaethau fod yn brysur iawn rhwng Amwythig a Birmingham oherwydd Gemau'r Gymanwlad, a does dim un o drenau cwmni West Midlands Railway yn rhedeg.

Mae'r Rail Delivery Group (RDG), sef corff y cwmnïau rheilffordd, yn cyhuddo'r undeb o amseru'r streic i gyd-fynd â Gemau'r Gymanwlad a dechrau'r tymor pêl-droed newydd i fwyafrif clybiau cynghrair Lloegr.

Yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn mae Caerdydd yn chwarae gêm gartref yn erbyn Norwich ac Abertawe'n teithio i Rotherham. Yn Adran Dau mae Casnewydd oddi cartref yn erbyn Sutton United.

"Rydym yn wirioneddol siomedig bod arweinwyr Aslef wedi penderfynu achosi mwy fyth o ansicrwydd a thrafferthion i deithwyr a busnesau mewn wythnos sydd eisoes wedi gweld streic gan yr RMT," meddai cadeirydd yr RDG, Steve Montgomery.

Llinell biced RMT yng ngorsaf Caerdydd Canolog
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau undeb RMT ar linell biced tu allan i orsaf Caerdydd Canolog ddydd Mercher

"Bydd teithiau penwythnos miliynau o deithwyr yn cael eu hamharu," meddai Mr Montgomery, "yn enwedig y rheiny sy'n gweithio, neu'n mynd i Gemau'r Gymanwlad neu gêm bêl-droed gyntaf y tymor."

Dywed yr RDG bod modd i bobl sydd ddim yn gallu teithio ddydd Sadwrn ddefnyddio'u tocynnau hyd at 2 Awst.

'Trafodaethau ystyrlon'

Mae Mr Montgomery wedi estyn gwahoddiad agored i arweinwyr Aslef gwrdd ag ef i gynnal "trafodaethau ystyrlon" i ddatrys yr anghydfod.

"Dylen nhw ganslo [y streic] a siarad gyda ni yn hytrach," meddai.

Mae'n fwriad gan Aslef a'r RMT i gynnal mwy o streiciau fis nesaf wrth i'r anghytuno barhau dros gyflogau, swyddi ac amodau.

Llinell biced yn Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gweithwyr ar linell biced tu allan i orsaf Abertawe ddydd Mercher

"Cam olaf un yw streiciau, wastad," meddai Mick Whelan, ysgrifennydd cyffredinol Aslef.

"Dydyn ni ddim eisiau creu anhawster i deithwyr... a dydyn ni ddim eisiau colli arian trwy fynd ar streic.

"Ond rydym wedi ein gorfodi i'r sefyllfa yma gan y cwmnïau, sy'n dweud eu bod nhw'n cael eu gorfodi i hyn gan y llywodraeth Geidwadol."

Dywedodd bod llawer o'i aelodau heb gael codiad cyflog ers 2019, sy'n gyfystyr â thoriad cyflog, mewn gwirionedd, i'r gyrwyr yng nghyd-destun yr economi.

"Rydym eisiau codiad yn unol â chostau byw. Rydym eisiau gallu prynu, yn 2022, yr hyn roedden ni'n gallu prynu yn 2021," meddai Mr Whelan.

"Dyw e ddim yn afresymol i ofyn wrth eich cyflogwr sicrhau nad ydych chi'n dlotach am dair blynedd yn olynol."

Honnodd Mr Whelan hefyd bod cwmnïau rheilffordd wedi "gorelwa" yn y tair blynedd ddiwethaf, gan gyfeirio at "elw mawr, difidendau i gyfranddalwyr, a chyflogau mawr i reolwyr".

Bwrdd gwybodaeth yng ngorsaf Caerdydd Canolog
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna rybudd i deithwyr ddisgwyl rhagor o drafferthion ar y rheilffyrdd ddydd Sadwrn

"Bydd teithwyr yn rhwystredig bod eu cynlluniau, unwaith yn rhagor, yn cael eu tarfu," meddai Anthony Smith, prif weithredwr y corff gwarchod Transport Focus.

"Mae'n hanfodol bod trafodaethau'n parhau i geisio canfod datrysiad sy'n osgoi llusgo teithwyr i'r anghydfod diwydiannol yma o hyd ac o hyd.

"Bydd gwybodaeth yn allweddol gydol yr amhariad. Dylai cwmnïau trên barhau i edrych ar welliannau penodol y gwnaethom eu nodi o streiciau mis Mehefin ynghylch ad-daliadau, iawndal a gwybodaeth glir.

"Byddwn unwaith yn rhagor yn monitro'r effaith ar deithwyr ac ar y rheiny sydd methu teithio."

Pynciau cysylltiedig