'Disgwyl pethau mawr' wrth i bobl ifanc ddychwelyd i Faes B
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Maes B wedi gorfod "ailwerthu'r lle bron â bod" i genhedlaeth newydd o bobl ifanc sydd heb gael profi cornel ieuenctid yr Eisteddfod o'r blaen.
Wrth i'r drysau agos i'r gwersyllwyr cyntaf ddydd Mawrth, dywedodd Elan Evans eu bod nhw "wirioneddol methu aros i groesawu pawb yma i Dregaron".
Gyda digwyddiad Eisteddfod Llanrwst 2019 yn gorfod cael ei ganslo'n gynnar oherwydd y tywydd, a Chaerdydd y flwyddyn gynt yn Brifwyl ddinesig, dyma fydd y tro cyntaf ers pum mlynedd i Faes B gael ei gynnal yn llawn mewn cae traddodiadol.
Mae'n "drist", meddai Elan, fod cenhedlaeth o bobl ifanc felly wedi methu allan ar y profiad - ac felly maen nhw am sicrhau bod profiad eleni hyd yn oed yn fwy "positif a chyffrous".
'Rite of passage' i bobl ifanc
Yn hytrach nag un llwyfan mawr fel sy'n arferol yn y maes ieuenctid, bydd llwyfan ychwanegol eleni ar gyfer bandiau, yn ogystal â phabell arall gyda DJs yn chwarae.
"Ni 'di aros yn hir iawn, iawn am y Maes B yma," meddai Elan Evans.
"Ar ôl dwy flynedd lle dyw artistiaid ddim wedi gallu rhannu eu miwsig gyda'u ffans nhw, mae'r ffaith ein bod ni'n gallu cynnig tri llwyfan yn beth really positif a chyffrous.
"Oedden ni'n teimlo bod angen hwnna... i roi'r cyfle i'r bandiau i gyd [fethodd gyfle i chwarae nes eleni]."
Gyda Maes B wedi chwarae rhan gymdeithasol ym mywydau cymaint o bobl ifanc Cymru, meddai, roedd sicrhau bod modd iddyn nhw wneud hynny eto eleni yn hollbwysig.
"Mae'n rite of passage i fynd i Maes B," meddai Elan.
"Fi'n cofio mynd i un cynta' fi pan o'n i'n 16, a hwnna oedd profiad cynta' fi o fod mewn gŵyl ar ben fy hun gyda ffrindie.
"Mae'n drist i feddwl bod cymaint o bobl wedi colli'r cyfle cynta' yna pan o'n nhw'n 16.
"Felly mae 'di bod yn dasg o ailddangos Maes B i'r bobl ifanc yma, ailwerthu'r lle bron â bod, achos bod gen ti ddim y bobl yn y blynyddoedd hŷn yn siarad amdano fe yng nghoridorau'r ysgol neu beth bynnag.
"Ond mae'r gwerthiant yn wych eleni, 'dyn ni mor hapus, a mor excited i agor y drysau."
Bydd artistiaid y prif lwyfan nos Wener i gyd yn fenywod, a phrosiect Merched yn Gwneud Miwsig wedi bod yn rhan fawr o wireddu hynny.
"Fi a'r tîm yn teimlo'n wirioneddol angerddol dros roi cyfle a llwyfannau i fenywod," meddai Elan.
"Ac roedd e'n hawdd ffeindio artistiaid [i lenwi'r lein yp] achos mae cymaint o fenywod amazing yma yng Nghymru'n creu cerddoriaeth.
"Honestly, fi'n meddwl bydd e'n un o'r Maes Bs gorau sydd 'di bod ers sbel."
Fe agorodd drysau Maes B toc wedi hanner dydd ddydd Mawrth, a'r rhai cyntaf yn y ciw oedd Llyr, Owen a Morgan o Gaernarfon.
"Dwi'n bach o veteran, felly trio dangos i'r rhai newydd 'ma be' 'di Maes B," meddai Llyr, sydd wedi bod dair gwaith o'r blaen.
Roedd Daniel a Molly wedi teithio i fyny o Gaerdydd, ac yn dod am y tro cyntaf.
"O'n i 'di gweld e pan oedd y 'Steddfod yng Nghaerdydd, ond o'n i rhy ifanc i fynd," meddai Molly.
Roedd Awen a'i ffrind Celyn hefyd wedi teithio o'r brifddinas, a hynny ar ôl bwriadu mynd cyn i'r pandemig daro.
"Dwy flynedd yn ôl o'n i'n mynd i fynd, ond methu achos Covid. Felly ni'n edrych ymlaen," meddai Awen.
Dyma fydd trydydd Maes B Alys o'r Bala, a'r tro yma mae hi yno gyda ffrindiau o'r brifysgol yn Aberystwyth.
"'Di disgwyl dipyn, ond edrych ymlaen - gobeithio fydd o mor dda a 'dan ni gyd 'di obeithio fydd o. Expecting big things yn fan 'ma!" meddai.
O Ben Llŷn mae Cai a Twm wedi teithio - a Twm dan y camargraff fod yna ffair yno.
"Oes 'na reids yma?" gofynnodd.
"Dwi'n edrych 'mlaen i weld Sŵnami nos fory, a Cledrau ac Eden nos Wener. O'n i fod i fynd i Llanrwst, ond gaeth o'i ganslo 'cos o'r glaw."
Mae'r bandiau a'r gerddoriaeth yn atyniad mawr, wrth gwrs - ond beth arall mae'r gwersyllwyr yn edrych ymlaen ato?
"Yr yfed!" meddai Mari o Ynys Môn wrth gyrraedd gyda'i ffrind Molly.
"'Dan ni'n really excited, dyma'n tro cynta' ni yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022