Eisteddfod: Erfyn ar bobl i beidio parcio mewn 'llefydd dwl'
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth cwmni diogelwch Maes yr Eisteddfod yn erfyn ar bobl i ddilyn arwyddion traffig ac osgoi "stopio mewn llefydd dwl" er mwyn osgoi tagfeydd.
Dywedodd Emlyn Jones fod rhai fel petaen nhw eisiau "parcio ar lwyfan y Pafiliwn" wrth geisio mynd mor agos i'r Maes â phosib.
Mae dau brif faes parcio gan yr Eisteddfod ar gyfer ymwelwyr, un i'r gogledd a'r llall ar gyfer teithwyr o'r de, a system unffordd hefyd yng nghanol Tregaron.
Ychwanegodd Mr Jones fod ganddyn nhw "opsiynau" o ran symud y meysydd parcio petai angen, gyda disgwyl rhagor o law dros nos i mewn i fore Mawrth.
'Edrychwch ar yr arwyddion'
Ar ôl penwythnos cymharol dawel, fe brysurodd y Maes ddydd Llun o ran ymwelwyr, a hynny ar ddiwrnod mwyaf braf y Brifwyl hyd yma.
"Dydd Sadwrn 'naeth hi adeiladu lan, ac aeth hi'n dipyn fwy prysur erbyn Dafydd Iwan [nos Sul] - roedd tua 6,000 yn gwylio," meddai Mr Jones, perchennog cwmni Diogel.
Dywedodd mai dydd Llun oedd y "prawf mawr cynta'" ond ei fod yn "hapus dros ben" gyda'r trefniadau.
Serch hynny, nid pawb sydd wedi bod yn dilyn y cyfarwyddiadau am ble i barcio, meddai.
"Trwbl 'da pobl yw bod pennau lawr ac maen nhw isie mynd reit at y Maes, 'dyn nhw'm yn edrych ar yr arwyddion, 'dyn nhw'm yn darllen ac edrych ar y negeseuon ar y cyfryngau," meddai.
"'Na'i gyd alla'i gynghori yw edrychwch ar yr arwyddion, dilynwch rheiny.
"Mae digon o staff 'da ni yn y meysydd parcio, peidiwch stopio mewn llefydd dwl, ac fe gyrhaeddwch chi'r Maes yn ddigon handi.
"Natur dynol yw mynd mor agos - 'se lot ohonyn nhw'n hoffi parcio ar lwyfan y Pafiliwn!"
Tir yn sychu yn 'hynod o dda'
Nid ymwelwyr yn unig sydd heb fod yn talu sylw, gyda'r system unffordd wedi cymryd amser i drigolion Tregaron arfer ag ef hefyd.
"I lot o bobl leol, mae'r system unffordd yma... mae 'di setlo nawr, ond y diwrnodau cyntaf, roedd pobl yn mynd y ffordd anghywir - ffermwyr Tregaron wedi 'neud e drwy eu hoes," meddai Mr Jones.
"Ond dwi'n hapus dros ben 'da pethe nawr."
Ychwanegodd bod "opsiynau 'da ni" o ran symud y meysydd parcio petai'r tywydd yn gwaethygu eu cyflwr, ond bod y tir yn "hynod o dda" yn sychu.
"Ar y foment maen nhw'n dal lan yn dda iawn," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022