Tai bach y Maes yn 'ddigonol', medd yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr yr Eisteddfod yn dweud bod cyfleusterau tai bach y Maes yn "ddigonol" er gwaethaf cwynion gan nifer o bobl am eu cyflwr.
Mae prinder lle mewn toiledau anabl, diffyg cyfleusterau hylendid ar gyfer mislif a dim dŵr ar gyfer golchi dwylo ymhlith rhai o'r cwynion yn Nhregaron.
Dywedodd un Eisteddfodwr mewn neges ar grŵp Rhwydwaith Menywod Cymru ar Facebook bod mynd â phlant bach i'r tai bach yn "anodd iawn" hefyd.
Mewn ymateb, dywedodd y prif weithredwr, Betsan Moses, y bydd y cwmni hylendid yn glanhau'r tai bach yn amlach ac na fydd yr Eisteddfod yn darparu cyfleusterau ychwanegol.
'Gwaethaf erioed'
Wrth siarad ar Dros Frecwast o'r Maes, dywedodd un ddynes mai dyma'r "'Steddfod waethaf" o ran cyfleusterau tai bach a glendid.
"Mae o'n annerbyniol, mae o - a dweud y gwir yn onest - yn israddol i be 'dan ni'n ddisgwyl i unrhyw berson, boed yn anabl neu fel arall.
"Mae o'n amrywio ymhob Eisteddfod, ond o'n profiad ni, hwn 'di'r gwaetha 'dan ni wedi ei brofi erioed.
"Ma' nhw'n brin, a 'dach chi'n gorfod meddwl cyn mynd i'r gawod sut dach chi'n mynd i gopio yn y gawod, does 'na ddim lle i hongian dim byd.
"Mae'r cyfleusterau'n anaddas iawn i lond cae o gannoedd o garafanau."
Mae glendid yn "anobeithiol" ar y maes, yn ôl un Eisteddfodwr arall fu'n siarad ar Dros Frecwast.
"Es i i'r gawod anabl ddoe yn meddwl 'swn ni'n cael gwell lle ond o'dd y dŵr ddim yn mynd allan pan ddes i allan o'r gawod.
"Oedd o'n sefyll oedd, a dillad yn wlyb i drio gwisgo wedyn ynde."
Dywedodd Leah Williams o Lansannan nad oes goleuadau ger y tai bach yn y maes carafanau yn y nos.
Ond dywedodd bod prif faes yr Eisteddfod yn waeth na'r maes carafanau.
'Wedi dirywio'
Yn ôl un fam a merch o Gaerdydd fu'n siarad â BBC Cymru Fyw ar y Maes, roedd safon y tai bach yn "uffernol".
"Ni 'di bod ma ers dydd Sadwrn, a dwi'n meddwl eu bod nhw wedi dirywio," meddai.
"Ddoe [dydd Llun] oedden nhw'n uffernol, ac yn eitha' cynnar yn y bore hefyd. Doedd e ddim fel bod neb wedi dod mewn i'w glanhau nhw."
Ychwanegodd ei merch: "O'n i 'di defnyddio'r toiledau ddoe ac o'n nhw 'di rhedeg mas o bapur toiled a hand sanitizer so mae'n anodd."
"Fi 'di gweld rhai gwaeth. Maen nhw'n iawn ond ddim yn grêt," meddai Magi o Aberystwyth.
Mae'n cytuno gyda chwynion gan rai ar y cyfryngau cymdeithasol fod y tai bach wedi bod yn arbennig o drafferthus i rai, gan gynnwys merched sydd am ddefnyddio nwyddau hylendid.
"Dyw e ddim yn ideal, ond s'dim lot chi'n gallu 'neud amdano fe."
Yn ôl un arall ar y Maes - Kathryn Watkiss o Borth, Ceredigion - doedd y tŷ bach ddim yn fflysio.
"Fi jyst wedi defnyddio'r toiled, ond do'n i ddim yn gwybod fod e ddim yn fflysio cyn bod fi'n mynd mewn.
"Felly tipyn bach yn traumatised nawr!" dywedodd Kathryn.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod eu bod wedi "trafod gyda'r cwmni glanhau ac fe gafwyd gwelliant am beth amser" yn dilyn sylwadau dros y penwythnos.
"Rydyn ni'n ymwybodol bod pethau wedi gwaethygu eto, ac felly rydyn ni wedi rhoi cynlluniau amgen mewn lle ac yn gweithio gyda chwmnïau ychwanegol i fynd i'r afael â'r sefyllfa."
'Atgoffa o etiquette carafanio'
Yn y gynhadledd i'r wasg fore Mawrth, dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses eu bod yn gweithio gyda'r cwmnïau hylendid i sicrhau bod y tai bach yn cael eu glanhau'n amlach.
Ond dywedodd na fyddai'r Eisteddfod yn darparu cyfleusterau ychwanegol i'r hyn sydd yno eisoes.
"Mae pob un o'r toiledau o ran niferoedd, yn briodol ar gyfer y Maes," meddai.
Ychwanegodd y byddai toliedau'r maes carafanau hefyd yn cael eu glanhau'n amlach, ond bod angen i'r gwersyllwyr hefyd fod yn gyfrifol wrth eu defnyddio nhw.
"Er enghraifft, yn y glaw, peidiwch â defnyddio'ch ceir i fynd i'r tai bach, oherwydd mae hynny'n creu problemau eraill," meddai.
"Felly gweithiwch gyda ni i sicrhau bod y meysydd mor lân â phosib.
"Pethau elfennol fel os ewch chi mewn i'r gawod yn eich welis, bydd mwd yn y gawod, felly defnyddiwch flip flops ac yn y blaen.
"Felly jyst eu hatgoffa nhw o etiquette carafanio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022