Ymateb 'gwych' i apêl siaradwyr Cymraeg claf dementia

  • Cyhoeddwyd
Cartref Severn ViewFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddynes yn ei 80au yn cael gofal yng nghartref Severn View, Cas-Gwent

"Llwyddiant sy'n codi'r galon" yw disgrifiad un o swyddogion Cyngor Sir Fynwy ar ôl i chwech o bobl leol ymateb i gais am wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith i helpu dynes yn ei 80au sydd â dementia a "mwy neu lai ond yn siarad Cymraeg".

Ddydd Mawrth roedd apêl ar ran y ddynes, sy'n wreiddiol o Ben Llŷn ond mewn cartref yng Nghas-gwent, lle nad oes yr un o'r staff yn siarad yr iaith.

"Mae'r ymateb wedi bod yn wych yn barod," meddai Alan Burkitt o Gyngor Sir Fynwy.

"Mae 'na chwech o bobl, i gyd o Ben Llŷn yn wreiddiol, wedi gwirfoddoli i helpu. Mae pump yn byw yn y sir ac un yng Nghaerdydd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alan Burkitt mae'r cyngor wedi cael trafferth dod o hyd i ofalwr sy'n siarad Cymraeg

Fe wnaeth Mr Burkitt, Swyddog Polisi Cydraddoldebau a'r Iaith Gymraeg y cyngor, helpu i ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg ar ôl i'r cartref fethu yn eu hymdrechion nhw.

Yn wreiddiol roedd y cyngor wedi ceisio cyflogi gofalwr oedd yn rhugl yn y Gymraeg, ond bu hynny'n aflwyddiannus.

'Y ddynes yn hapusach'

Dywedodd Mr Burkitt fod y ddynes wedi "mynd 'nôl i'r famiaith" yn sgil y dementia, a bod y trafferthion cyfathrebu yn achosi rhwystredigaeth iddi hi ac i staff cartref Severn View.

"Mae'r ymateb wedi bod yn wych. O fewn diwrnod roedd 'na un person wedi mynd i'r cartref yn ddirybudd i siarad gyda'r ddynes.

"Dwi'n gwybod i reolwr y cartref ddweud wedyn bod hwyliau'r ddynes llawer yn hapusach ar ôl yr ymweliad a bod hynny o ganlyniad i allu siarad yn ei mamiaith.

"Roedd hynny yn bwysig i bobl ei weld, bod y Gymraeg yn help mawr."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'n debyg i'r ymwelydd adael heb adael unrhyw fanylion, ond ar ôl hynny fe wnaeth chwech o bobl eraill gysylltu gyda'r cyngor er mwyn gwirfoddoli.

Ychwanegodd Mr Burkitt fod apêl y sir am siaradwyr Cymraeg yn parhau.

Dywedodd: "Dwi hefyd yn gwybod fod yna drafodaeth wedi bod ar y pwnc ar Facebook, ac mae'n bosib y bydd mwy yn gwirfoddoli.

"O bosib bod y bobl hyn ond yn gallu ymweld am un neu ddwy awr bob wythnos, felly mae'n bwysig ein bod yn cael gymaint â phosib o wirfoddolwyr."

Mae disgwyl y bydd yr awdurdod lleol yn ail-hysbysebu swyddi gofalwyr yn y dyfodol agos.