Pryder am ddiffyg gwirfoddolwyr gofal dementia Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Gofal Dementia Cymraeg

Mae gwraig o Geredigion wedi mynegi ei phryder am brinder gofalwyr dementia Cymraeg eu hiaith yn ei hardal, wedi iddi gael trafferth dod o hyd i gymorth i'w gŵr.

Mae Enfys Davies a'i gŵr Peter yn byw ym mhentref Penrhiw-llan ger Llandysul, ac ers bron i flwyddyn, mae hi wedi bod mewn cysylltiad â nifer o gymdeithasau a mudiadau i gael eu hasesu am gymorth.

Er bod pob mudiad wedi cytuno eu bod yn gymwys am gymorth, mae Mrs Davies wedi cael trafferth mawr dod o hyd i gymorth cyfrwng Cymraeg.

Ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher, dywedodd fod cael gwirfoddolwr sy'n siarad Cymraeg yn bwysig iddi a'i gŵr: "Mae'n hollbwysig ei fod e'n gysurus wrth bod e'n siarad gyda rhywun, a'i fod e'n hollol fodlon i fi ei adael e am ychydig o oriau."

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws yn dweud bod angen "trafodaeth genedlaethol" ar y mater.

'Mwy na chyfrwng'

"Mae e'n gallu siarad Saesneg," meddai Mrs Davies, "ond mae mynegi ei hunan yn Saesneg am gyfnod o dair awr yn mynd i fod yn 'chydig o drafferth iddo fe.

"Mae e'n fwy na chyfrwng - mae'n ddiwylliant, mae'n arferion, ffordd cymdeithas o fyw, mae e'n adnabyddiaeth o wahanol bobl."

Wedi nifer o ymholiadau, fe ddaeth gwasanaeth gofal Crossroads o hyd i Gymraes Gymraeg i Mrs Davies yn y pen draw, ac mae hi'n dod at ei gŵr yn wythnosol: "Mae hi'n fendith. Fydden ni ddim wedi dewis gwell person se'n i'n gallu matsio rhywun fy hunan, ac yn Gymraes lân gloyw.

"Dwi'n clywed y wraig sy'n dod ar ddydd Llun yn dweud wrtho fe, 'O wel, wel, chi'n nabod nhw, y'ch chi? O, dwi'n ffrindie mawr 'da nhw,' ac mae'r sgwrs yn dilyn ymlaen o hynny."

Dan bwysau

Ond wrth i gyflwr ei gŵr ddatblygu, mae Mrs Davies yn dweud ei bod hi dan bwysau cynyddol i ddechrau derbyn gofal cyfrwng Saesneg.

"Ychydig cyn y Nadolig, wnaeth un person o un o'r cymdeithasau 'ma, wedodd hi wrtha i bod yr amser wedi dod nawr i fi dderbyn unrhyw help ro'n nhw'n cynnig gan bod y gŵr yn gallu siarad Saesneg," meddai.

"Nes i weud yn bendant o hyd, 'na'... achos os daw rhywun 'ma sy'n ddi-Gymraeg, weld pryd ydw i'n mynd i gael rhywun sy'n siarad Cymraeg wedyn ar ôl hynny?

"Unwaith mae rhywun wedi dechre 'ma, dwi ddim ishe gwrthod y person hynny, gan roi'r argraff bo fi ddim yn hapus gydag e neu gyda hi.

"Mae'n well gyda fi beidio â dechrau gyda rhywun sy' ddim yn siarad Cymraeg."

Dim angen ofni

Ym marn Mrs Davies, mae hi'n meddwl falle bod nifer o Gymry Cymraeg yn ofni ystyried mynd i'r maes gwirfoddoli am eu bod ofn y gwaith: "Dwi'n credu bod rhywfaint o ofn ynghlwm â'r peth.

"Ofn bydden nhw ddim yn gallu ymdopi petaen nhw'n dod fel gwirfoddolwyr, neu ofn na fydden nhw'n gallu cynnal sgwrs - mae pob math o ofnau.

"Oni bai bod gyda fi brofiad personol, mae'n siŵr y bydde rhai o'r ofnau yna gyda fi hefyd.

"Does dim angen ofni, mae angen lot o amynedd a lot o ddyfalbarhad, ond does dim angen ofni."

'Pobl wanaf cymdeithas'

"Ry ni'n sôn am bobl wanaf cymdeithas mewn ffordd, yndy' ni?

"Os na allwn ni sicrhau eu bod nhw'n cael eu hawliau, wel dy' ni ddim yn gwneud beth ddylen ni fod yn gwneud mewn gwirionedd.

"Oni bai ein bod ni'n wynebu'r her yma fel teulu, fydden i ddim yn ymwybodol o'r prinder gwirfoddolwyr sy'n siaradwyr Cymraeg yn y maes yma.

"Dyna un rheswm dwi'n siarad â chi heddi, yw i drio codi ymwybyddiaeth am hyn, bod yna brinder dybryd o siaradwyr Cymraeg i wirfoddoli yn y maes."

Gallwch glywed y cyfweliad yn llawn a'r ymateb ar Taro'r Post ar BBC Radio Cymru am 13:00.