Lluniau Dydd Mawrth: Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddydd Mawrth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae'r torfeydd yn parhau i heidio yn eu miloedd i Dregaron.
Dyma ychydig o'r hyn oedd i'w weld ar y Maes.

Defi o Gwm Rheidol wrth ei fodd yn chwarae yn y pridd ym Mhentre Ceredigion.

Aelodau o Gôr Meibion y Mynydd yn cyfarfod dros beint yn y Pentre' Bwyd.

Cafodd Maes B ei ohirio yn 2019 oherwydd y tywydd garw, felly mae'r criw yma wedi aros yn eiddgar i gael mwynhau!

Roedd ychydig o gerddoriaeth gwerin i'w glywed wrth y brif fynedfa ben bore.

Mae'r efeilliaid Ffion a Rhianna o Aberaeron, 11, ac Ifan sy'n ddwy, yn mwynhau pizza yn y Pentre' bwyd.

Ym mhabell Cyngor Sir Ceredigion mae saith llun o rai o'r Cardis mwyaf adnabyddus; Lyn Ebenezer, Dic Jones, Caryl Lewis, Lleucu Roberts, Menna Elfyn, Hywel Teifi Edwards a T. Llew Jones.

Pabell Platiad yn llenwi amser cinio gyda phobl yn mwynhau seibiaint a bwyd cynnes.

Roedd yna seibiant i'r chwiorydd Sue a Lina, a Geraint a Johnny wrth iddyn nhw gael paned o goffi ar y Maes fore Mawrth. Mae'r pedwar yn rhan o glwb rhedeg Llanerchaeron sy'n rhedeg y Park Run bob dydd Sadwrn.

Côr Hen Nodiant o Gaerdydd oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth corau i bensiynwyr. Dyma Marged Jones a oedd yn cyfeilio i'r côr a Catrin Williams yr arweinydd.

Ar Lwyfan y Llannerch y prynhawn 'ma roedd cyfle i glywed Esyllt Maelor yn trafod ei cherddi buddugol. Ddydd Llun fe dderbyniodd ganmoliaeth fawr gan dri beirniad cystadleuaeth y Goron ac fe wnaeth un ohonynt ymuno â hi - Cyril Jones (dde) oedd yn traddodi'r feirniadaeth ddoe.

Math o Aberystwyth (pump oed), yn edrych ar ôl ei chwaer a'i frawd bach, Leisia a Wil.

Dyma Morgan, 6, yn gwisgo helmed yr heddlu, a'i frawd mawr Osian, sy'n 10, yn cadw llygad arno.

Disgyblion o Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn yn paratoi i berfformio yn y Pafiliwn.

Ifan o Benrhyn-coch, yn cofleidio un o eiconau Cymru, Mistar Urdd.

