Arestio dyn, 18, wedi ymosodiad rhyw yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Mae'r heddlu yn ymchwilio i ymosodiad rhyw honedig a ddigwyddodd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yr wythnos ddiwethaf.
Mewn datganiad fe ddywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn adroddiad o ymosodiad rhyw "yn ardal y prif lwyfan" am tua 20:50 ar ddydd Mercher, 3 Awst.
Cafodd dyn 18 oed ei arestio, cyn cael ei ryddhau'n ddiweddarach dan ymchwiliad.
Ychwanegodd y llu nad oedd awgrym fod unrhyw un wedi cael eu diod wedi'i sbeicio.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys i ddechrau mai bachgen 17 oed oedd wedi'i arestio, cyn iddyn nhw gywiro hynny i 18.
Mae swyddogion yn parhau i wneud ymholiadau.