Liz Truss a Rishi Sunak yn ymosod ar record Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Rishi Sunak a Liz Truss wedi ymosod ar Mark Drakeford a Llywodraeth Cymru yn ystod hystings ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.
Cyhuddodd Ms Truss - y ffefryn i fod yn brif weinidog nesaf y DU - Mr Drakeford o fod yn "fersiwn egni isel" o Jeremy Corbyn, "sydd â chywilydd o'n hanes".
Dywedodd Mr Sunak y byddai'n "brif weinidog gweithredol", fyddai'n barod beirniadu'n gyhoeddus "methiannau datganoli".
Bu'r pâr yn ateb cwestiynau gan aelodau'r blaid yng Nghaerdydd nos Fercher.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wwrthod ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y ddau ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth Geidwadol.
Ond yn ddiweddarach, dywedodd Mr Drakeford nad oedd ganddo amser i wylio'r drafodaeth, a bod "dim byd alla' i ei ddweud amdanynt nad ydynt wedi dweud am ei gilydd yn barod".
Yn ei araith agoriadol fe wnaeth Mr Sunak ymosod ar gynlluniau i gael mwy o aelodau yn y Senedd ym Mae Caerdydd, gan ddweud y dylid gwario'r arian ar yr argyfwng costau byw.
Ychwanegodd y bydd polisi Llywodraeth Cymru o beidio ag adeiladu unrhyw ffyrdd newydd am y tro - safbwynt y mae gweinidogion yn dweud sydd ei angen er mwyn lleihau allyriadau carbon - yn achosi "niwed ariannol" i'r wlad.
Fe wnaeth y cyn-ganghellor hefyd ymosod ar record Llafur mewn llywodraeth yma, gan ddweud "er iddyn nhw dderbyn 20% yn fwy o gyllid, yma yng Nghymru mae'r rhestrau aros hiraf yn y Deyrnas Unedig".
'Datganoli parhaus ddim wedi gweithio'
Awgrymodd hefyd ei fod yn gwrthwynebu rhagor o ddatganoli i'r Senedd.
"Mae angen i ni fod yn fwy parod i feirniadu methiannau'r llywodraeth ddatganoledig yma, oherwydd dyw'r llwybr o ddatganoli parhaus ddim wedi gweithio o ran gwella gofal iechyd ac addysg," meddai.
"Os ydy Llywodraeth y DU yn gyrru biliynau o bunnoedd i Gymru ac mae hynny'n cael ei wastraffu - dyw plant ddim yn derbyn addysg iawn mewn ysgolion ac mae pobl yn disgwyl yn llawer rhy hir am driniaeth iechyd - mae angen i ni fod yn barod i feirniadu a sicrhau ein bod yn gwella hynny."
Yn ei haraith hi dywedodd Ms Truss fod "gormod o bobl yn y wlad 'ma sydd â chywilydd o'n hanes, sy'n siarad â dirmyg am ein gwlad, sy'n dweud bod ein dyddiau gorau tu ôl i ni. Maen nhw'n hollol anghywir".
"Mae'n ddrwg gen i ddweud fod Mark Drakeford yn un ohonyn nhw.
"Boed yn atal ffordd liniaru'r M4 neu osod treth ar ein diwydiant twristiaeth, fe fydda i'n mynd i'r afael â'i negatifrwydd am Gymru ac am y Deyrnas Unedig."
Dywedodd y byddai hi yn adeiladu ffordd liniaru'r M4 - prosiect y gwnaeth Llywodraeth Cymru gefnu arno yn 2019 oherwydd pryderon am yr effaith amgylcheddol.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod "ond wedi gweld adroddiadau" ynghylch yr hystings, a heb wylio'r rhaglen.
Ychwanegodd mewn cyfweliad diweddarach: "Wrth gwrs, roedd croeso i'r ddau wneud un o'u hymweliadau prin â Chymru, a does dim byd alla' i ddweud amdanynt nad ydynt wedi dweud am ei gilydd yn barod."
'Gogledd Cymru wedi'i adael ar ôl'
Fe wnaeth Ms Truss hefyd addo newid fformiwla ariannu y Trysorlys er mwyn cael buddsoddiad "i lefydd sydd wedi cael eu gadael ar ôl".
"Mae angen i ni godi'r gwastad yn ein gwlad," meddai, "ac rwy'n gwybod fod rhannau o Gymru ble mae hi'n anodd cael signal ffôn a band eang.
"Mae'n anodd cael trên sy'n mynd i unrhyw le yn gyflym, ac mae gogledd Cymru yn enwedig wedi cael ei adael ar ôl."
Yr hystings yma yng Nghymru oedd cyntaf i'w cynnal y tu allan i Loegr.
Mae Mr Sunak a Ms Truss ar daith o amgylch y DU wrth iddyn nhw geisio perswadio aelodau'r blaid i'w cefnogi am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol ac olynu Boris Johnson fel prif weinidog.
Dylai aelodau'r blaid gael eu pleidleisiau yr wythnos hon, yn dilyn oedi oherwydd ofnau diogelwch dros y broses bleidleisio.
Mae tua 160,000 o aelodau Ceidwadol i fod i ethol olynydd Mr Johnson, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 5 Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022