Ysgrifennydd Cymru yn canmol 'amrywiaeth' maes y Brifwyl

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Robert Buckland
Disgrifiad o’r llun,

Pwysleisiodd Robert Buckland gefnogaeth Llywodraeth y DU i amcan Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi canmol yr "amrywiaeth" sydd bellach ar faes yr Eisteddfod, wrth gymharu hynny â natur "geidwadol" y Brifwyl yn y gorffennol.

Ar ymweliad â Thregaron, dywedodd Robert Buckland ei bod hi'n amser "cyffrous" i'r iaith Gymraeg wrth bwysleisio cefnogaeth Llywodraeth y DU i'r amcan o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Er ei fod yn cefnogi Rishi Sunak yn ras arweinyddol y Ceidwadwyr, dywedodd y byddai'r cyn-Ganghellor a Liz Truss gystal â'i gilydd ar gyfer buddiannau Cymru.

Mynnodd chwaith nad oedd ots ai fo neu Andrew RT Davies, arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, oedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, cyn belled â'u bod nhw'n gallu "cydweithio" yn dda.

Cafodd Mr Buckland ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru fis diwethaf yn dilyn ymddiswyddiad Simon Hart. Mae'n cynrychioli etholaeth yn Lloegr ond yn enedigol o Lanelli.

'Adlewyrchiad o Gymru heddiw'

Fe siaradodd rywfaint o Gymraeg ar ddechrau ei anerchiad yn y gynhadledd i'r wasg, cyn troi at y Saesneg, gan fynegi "tristwch" yn ddiweddarach nad oedd yn medru'r iaith yn fwy rhugl.

"I lawer ohonom ni, dydy Eisteddfodau ddim yn unig yn rhan o'n hanes diwylliannol, ond adlewyrchiad o Gymru heddiw," meddai mewn cyfweliad â BBC Cymru.

"Mae'n ddiddorol nodi'r amrywiaeth sydd yma ar y maes.

Disgrifiad o’r llun,

Robert Buckland yn cymryd rhan yng nghynhadledd newyddion ddyddiol yr Eisteddfod fore Llun

"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi adnabod yn hanesyddol fod yr Eisteddfod Genedlaethol, mewn sawl ffordd, yn sefydliad ceidwadol gydag 'c' fach. Ond does dim rhaid iddi fod yn amddiffynnol.

"Mae'r twf yn yr iaith, a'r targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn gyfnod gyffrous."

Er fod yr iaith yn bwnc datganoledig, meddai, pwysleisiodd "ymrwymiad" Llywodraeth y DU i gyrraedd y targed hwnnw sydd wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru.

'Truss a Sunak yn dda i Gymru'

Dywedodd mai "tipyn bach" o Gymraeg oedd ganddo'n bersonol, a hwnnw'n "Gymraeg tafarn", ond y byddai'n hoffi dysgu mwy ar yr iaith ryw ddydd.

"Roedd hi'n dristwch mawr yn fy mhlentyndod fod fy mam-gu a thad-cu yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, ond yn y cyfnod yna chafodd e ddim ei phasio lawr i fy mam," meddai.

"Mae hynny'n destun edifeirwch a rhwystredigaeth mod i ddim wedi gallu rhannu yn hynny."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr agenda codi'r gwastad yn parhau dan y Prif Weinidog nesaf, boed yn Liz Truss neu'n Rishi Sunak, medd Mr Buckland

Wrth drafod ras arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, dywedodd na fyddai'r un o Rishi Sunak neu Liz Truss "yn beth gwael i Gymru".

"Os unrhyw beth fe fyddan nhw'n parhau i ddilyn yr agenda codi'r gwastad," meddai.

Ychwanegodd nad oedd ots chwaith os mai ef yn hytrach nag Andrew RT Davies oedd bellach yn cael ei ystyried fel arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru.

"Rydyn ni'n dîm, dyna'r peth pwysig," meddai. "Mae pobl Cymru eisiau gweld canlyniadau yn hytrach na thrafod pwy yw'r arweinydd neu ddim."