O ble daw'r gair 'cwtsh'?

  • Cyhoeddwyd
Clustog 'cwtch'
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sillafiad 'cwtch' i'w weld yn aml ar nwyddau o Gymru

Roedd rhain yn brin yn ystod y cyfnodau clo ond ym mhob man ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron wrth i ffrindiau a theulu weld ei gilydd am y tro cyntaf ers sbel; ac efallai bod ambell eisteddfodwr angen un mawr o'r rhain ar ôl wythnos brysur.

'Cwtsh' - y gair bach yna am gael coflaid gynnes, gysurlon.

Ond beth yw tarddiad y gair yma sydd, erbyn hyn, yn gallu hollti barn?

Mae erthyglau wedi eu hysgrifennu am ba mor arbennig yw'r gair yma i Gymru.

Mae'n cael ei gymharu â'r gair Sgandinafaidd hygge sy'n cyfleu clydwch cartrefol a theimladau cynnes a bodlon.

A diolch i sioeau fel Gavin and Stacey a'r nifer o weithiau mae'r gair wedi ei wnïo ar glustogau ar gyfer siopau anrhegion, mae'n air poblogaidd i gyfleu hunaniaeth Gymreig i rai erbyn hyn, yn Gymraeg a Saesneg.

'Dydy pawb ddim yn cytuno, a nifer o ogleddwyr yn teimlo mai gair deheuol ydy o.

Mae rhai'n teimlo ei fod wedi ei ddefnyddio hyd syrffed hefyd, ond mae'n gyson wedi cael ei ddewis mewn arolygon 'hoff air'.

Yn 2020 'cwtsh' ddaeth i'r brig wedi i Radio Cymru ofyn i ddysgwyr y Gymraeg enwebu eu hoff air yn ystod eu Hwythnos Dathlu Dysgwyr Cymraeg.

A chafodd ei ddewis gan Alex Jones fel ei hoff air yn ymgyrch hoff eiriau Cymru Fyw 2018.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2018 fe wnaeth Alex Jones ddewis 'Cwtsh' fel ei hoff air ar gyfer Cymru Fyw

Mae sillafiad yn bwysig!

Ond does 'na ddim byd yn codi gwrychyn rhai siaradwyr Cymraeg yn fwy na phan mae'r gair yn cael ei sillafu efo 'ch'.

"Sillafiad Saesneg yw 'cwtch'!" yw'r gri, "dydi'r cyfuniad o lythrennau 'tch' ddim yn gwneud y sŵn yna yn y Gymraeg!"

Y casgliad yw mai 'cwtsh' yw'r sillafiad Cymraeg cywir, tra bod 'cwtch' yn sillafiad Saesneg.

Disgrifiad,

Gwrandewch ar Ifor ap Glyn yn olrhain hanes y gair 'cwtsh' ar Radio Cymru

Beth mae'r geiriaduron yn ei ddweud?

Mae'r gair yng ngeiriadur Saesneg Rhydychen, dolen allanol, Oxford English Dictionary, ers 2005.

Yn y geiriadur hwnnw, dywedir mai benthyciad o'r Gymraeg ydy 'cwtch' ac mai'r sillafiad Cymraeg gwreiddiol yw 'cwts'.

Nodir bod ei ddefnydd yn Lloegr yn mynd yn ôl mor bell â'r 18fed ganrif yn Swydd Gaerloyw ('cooch').

Yng ngeiriadur Prifysgol Cymru, dolen allanol, y sillafiad 'cwts' sy'n dod gyntaf ac wedyn 'cwtsh' a 'cwyts'.

Ei ystyr fel enw yn ôl y geiriadur yw lle i orwedd, yn aml i anifail fel ci, cuddfan neu gongl fechan, a'i ddefnydd yn bennaf yn y de e.e. cwtsh glo, cwts tatws a cwts dan staer.

Daeth cyfrif Twitter Hanes Cymraeg Caerdydd o hyd i gyfeiriad at y gair , dolen allanolmewn dogfen o 1840 a'r 'sh' sydd yn y sillafiad.

Mae dyfynnu'r enw am ardal sydd bellach yn rhan o Farina Penarth o'r enw Cwtsh-y-Cŵn.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan HanesCymraegCaerdydd

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan HanesCymraegCaerdydd

Benthyciad o'r Saesneg?

Ond, yn ôl geiriadur y Brifysgol, benthyciad yw'r gair o Saesneg Canol - 'couche' sydd erbyn hyn yn 'couch'.

Daw'r gair hwnnw yn ei dro o'r Ffrangeg, 'couche', sydd fel berf yn golygu 'gorwedd' neu 'gysgu' ac fel enw lle i orwedd fel gwely neu ffau neu guddfan i anifail.

Ffynhonnell y llun, Geiriadur Prifysgol Cymru

Felly ydi o'n air Cymraeg o gwbl?

Mae'n edrych felly fel pe bai tarddiad gwreiddiol y gair a sut daeth i Gymru yn niwlog ac efallai'n egluro pam fod amwysedd o ran ei sillafu.

Mae pob iaith fyw yn benthyg a pherchnogi geiriau o ieithoedd eraill ac efallai mai dyna sydd wedi digwydd yma.

Ond byddai'n anodd iawn perswadio llawer o Gymry bellach nad eu gair nhw, a nhw'n unig, ydy 'cwtsh'!

Fe wnaeth fersiwn o'r erthygl yma ymddangos ar Cymru Fyw yn wreiddiol ym mis Hydref 2018.

Hefyd o ddiddordeb: