'Angen gwella trafnidiaeth gyhoeddus i'r Eisteddfod'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn rhannol ddall o ardal Caerffili wedi dweud ei fod yn rhwystredig nad yw'n gallu cyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae Alun Thomas o Ystrad Mynach yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd Tregaron, ond yn dweud y byddai hynny'n cymryd bron i saith awr.
Dywedodd Mr Thomas y dylai un ymhob tri Eisteddfod Genedlaethol gael eu cynnal mewn lleoliadau sy'n hawdd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Sefyllfa debyg sy'n ei wynebu ar gyfer digwyddiadau eraill fel y Sioe Frenhinol, meddai, ac er yr anogaeth i deithio ar drenau neu fysiau, mae'n "haws dweud na gwneud".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i wella dulliau cynaliadwy o drafnidiaeth gyhoeddus.
'Amhosib' mewn diwrnod
Petai Mr Thomas yn gadael ben bore o'i gartref, ni fyddai'n cyrraedd Tregaron tan ganol y prynhawn.
"Mae 'na anogaeth ar bawb i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ond mae hi'n haws dweud na gwneud mewn gwirionedd," meddai.
"Y cynhara' bydden i'n medru cyrraedd Tregaron o fan hyn yw 14:30 y prynhawn, yn yr un modd y cynhara' fydden i'n gallu cyrraedd Pwllheli y flwyddyn nesa' yw 15:30 y prynhawn.
"Mae'n amhosibl teithio o fewn un diwrnod i lefydd fel Tregaron a Phwllheli o nifer o fannau yng Nghymru."
Yn ôl Mr Thomas mae angen bod yn onest gyda phobl sy'n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus, a'u hannog nhw i drefnu llety ac aros dros nos.
Er meddai, mae 'na gost ychwanegol ynghlwm â hynny.
Mae'n cydnabod fod bysiau ychwanegol yn cael eu darparu yn ardal yr Eisteddfod ac yn dweud mai teithio o bell sy'n anodd.
"Os ewch chi i safle we'r Eisteddfod maen nhw'n rhoi manylion ynglŷn â bysys ychwanegol, ond dyw'r manylion yna ddim wedi cael eu trosglwyddo i wefan Traveline Cymru - sef y brif wefan ar gyfer cynllunio teithiau o'r fath.
"Hefyd i ddod 'nôl o Dregaron i dde Cymru dim ond un opsiwn sydd ar gael sef gadael Tregaron am 07:10 y bore ac aros awr a hanner yn Llanfarian, pan does dim byd ar agor."
'Y broblem yw'r cynllunio'
Yn ôl Mr Thomas mae costau yn golygu fod llai o bobl yn llogi bysiau i fynd i'r Eisteddfod erbyn hyn.
Mae'n dadlau y dylai un ym mhob tair Eisteddfod fynd i lefydd sy'n hawdd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
"Mae'n haws gwneud yr achos dros drafnidiaeth gyhoeddus mewn llefydd poblog ond rhan o'r broblem yw'r ffordd ni'n cynllunio'n trafnidiaeth ni.
"Mae'n rhaid i ni edrych ar beth all ddigwydd, y farchnad all ddod o gael trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd, ddibynadwy."
Roedd Mr Thomas wedi colli allan ar daith i'r Sioe Fawr eleni hefyd am nad oedd y gwasanaeth trên blynyddol o Gaerdydd yn cael ei gynnig eleni.
Roedd wedi gobeithio mynd i'r Eisteddfod dydd Sadwrn ar gyfer digwyddiad gyda Chôr Meibion Cwm yr Aber, ond mae wedi gorfod derbyn na fydd hi'n bosibl.
"Dwi'n hynod o rwystredig am mod i'n methu mynd i'r eisteddfod y flwyddyn yma.
"Os bydden i'n mynd am ddiwrnod yn unig fyddai methu mynd y flwyddyn nesa chwaith felly byddai'n colli pum mlynedd o eisteddfodau."
Wrth ymateb mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod hi wedi ymrwymo i greu rhwydwaith drafnidiaeth ar gyfer y dyfodol gan wella dulliau trafnidiaeth cynaliadwy gan gynnwys gwasanaethau trên a bws.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2022