Pibell fferm yn 'gwastraffu galwyni o ddŵr' ers mis Mai
- Cyhoeddwyd
Mae teulu o Geredigion wedi cysylltu â BBC Cymru yn cwyno am wastraff dŵr ar eu tir fferm, ddiwrnod ar ôl i Dŵr Cymru gyhoeddi y bydd gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dŵr mewn rhannau o'r gorllewin.
Dri mis yn ôl bu byrst mewn pibell mewn cae ar dir Alwyn a Rhian Davies, sy'n ffermio eidion a defaid yn New Cross ger Aberystwyth.
Mae'n golygu ei fod mor wlyb nac ydy'n bosib rhoi anifeiliaid arno.
Fyth ers hynny maen nhw wedi bod yn disgwyl i Dŵr Cymru ddatrys y broblem.
Dywed y cwmni bod "mynd i'r afael â gollyngiadau yn flaenoriaeth allweddol" a bod angen cynllunio'r gwaith adfer ar y fferm "yn ofalus" rhag amharu ar gyflenwadau dros 1,000 o gwsmeriaid eraill.
Dywedodd Rhian Davies wrth raglen Post Prynhawn Radio Cymru eu bod wedi cael byrst ddechrau Mai a bod Dŵr Cymru wedi anfon gweithwyr yno ar y 9fed i dorri twll anferth yn y ddaear.
"Mae e o flaen gât cae arall felly yn anffodus i ni, ni'n methu mynd o un cae i'r llall," meddai.
"Ond hefyd y'n ni'n methu cadw gwartheg ar y ddaear gan ei fod mor wlyb y bydden nhw wedi gwneud cyment o lanast yno."
Dywedodd fod Dŵr Cymru yn derbyn mai eu cyfrifoldeb nhw yw'r bibell, ond eu bod wedi rhoi gwybod i'r teulu nad oedd gweithwyr lleol yn ddigon profiadol i ddelio â hi, a bod rhaid aros am gwmni o Loegr i ddod yno i'w hatgyweirio.
Ond er gwaethaf galwadau ffôn a negeseuon e-bost, dal i ddisgwyl mae Rhian ac Alwyn Davies, ac mae'r ddau wedi eu cythruddo wrth glywed am y cyfyngiadau sydd i ddod yn Sir Benfro, pan fo galwyni o wastraff dŵr ar eu fferm nhw.
'Rhaid cynllunio'r gwaith yn ofalus'
"Mae mynd i'r afael â gollyngiadau yn flaenoriaeth allweddol i Dŵr Cymru ac rydym wedi gwneud cynnydd da o ran lleihau'r swm a gollir o'n rhwydwaith bob blwyddyn," meddai'r cwmni mewn datganiad.
"Dros yr 20 mlynedd diwethaf rydym wedi haneru ein lefelau gollyngiadau ac wedi cyrraedd ein targedau lleihau gollyngiadau bob blwyddyn dros y degawd diwethaf.
"Rydym yn ymwybodol o'r gollyngiad ger yr eiddo hwn ac er ein bod wedi gobeithio gallu atgyweirio'r bibell heb ynysu'r dŵr, nid oedd hyn yn bosibl.
"Mae'r prif gyflenwad yn gwasanaethu dros fil o gwsmeriaid felly mae angen cynllunio'r gwaith yn ofalus er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar y cyflenwadau.
"Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cwsmer am ein cynlluniau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2022