Arestio tri yn dilyn achos 'gofidus' mewn mynwent
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi eu hanafu'n ddifrifol a thri pherson wedi cael eu harestio yn dilyn yr hyn y mae'r heddlu'n ei ddisgrifio'n "ddigwyddiad gofidus iawn" mewn mynwent yn Abertawe.
Cafodd Heddlu'r De eu galw ychydig cyn 15:00 ddydd Gwener mewn ymateb i ddigwyddiad ym Mynwent Treforys "oedd yn cynnwys grŵp mawr o unigolion".
"Cafodd swyddogion arbenigol, gan gynnwys swyddogion arfog a hofrennydd yr heddlu eu hanfon i'r lleoliad," dywedodd y llu mewn datganiad.
Ychwanegodd bod dau berson wedi cael eu cludo i'r ysbyty "gydag anafiadau difrifol" a bod tri pherson wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad a'u cludo i orsaf heddlu Canol Abertawe."
"Roedd hwn yn ddigwyddiad gofidus iawn i aelodau'r cyhoedd oedd yn y fynwent ac mewn gwasanaeth yn yr amlosgfa," dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price o uned CID Abertawe.
"Nid ydym yn goddef y math yma o ymddygiad ac rydym wedi dechrau ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad yma.
"Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i'r gymuned y bydd yna bresenoldeb heddlu ychwanegol yn yr ardaI heno a thros y penwythnos wrth i'n hymchwiliadau barhau."