Y Bencampwriaeth: Reading 2-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cic o'r smotyn Shane LongFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Rhwydodd Shane Long gic o'r smotyn i Reading wedi 27 munud

Doedd gôl gynnar Callum O'Dowda ddim yn ddigon i'r Adar Gleision wrth i Reading ddod yn ôl i hawlio'r triphwynt.

Roedd hi'n gychwyn perffaith i'r tim oddi cartref diolch i beniad y Gwyddel wedi pedwar munud.

Ond daeth Reading yn gyfartal diolch i gic o'r smotyn Shane Long wedi 27 munud, a oedd wedi'i lorio gan Curtis Nelson.

Daeth ail gôl tîm Paul Ince diolch i'w fab, Tom, gyda'i daran yn curo Allsop.

Er oedd hanner awr yn weddill, methodd Caerdydd a ffendio'r rhwyd, i fawr rwystredigaeth y cefnogwyr oddi cartref.