Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-3 Blackburn Rovers

  • Cyhoeddwyd
Ben Brereton DiazFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Ben Brereton Diaz wedi 57 munud i'r ymwelwyr

Roedd hi'n berfformiad siomedig iawn gan yr Elyrch wrth i Blackburn Rovers adael y Liberty gyda hat-tric o goliau a'r holl bwyntiau.

Sgoriodd Sammie Smodics i'r ymwelwyr ond 39 munud i fewn i'w ymddangosiad cyntaf ar ôl arwyddo o Peterborough.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i dîm Russell Martin diolch i gôl ymosodwr rhyngwladol Chile, Ben Breteton Diaz.

Gydag Abertawe ddim yn edrych yn debyg o ddod yn ôl, setlwyd y fuddugoliaeth gan gôl hwyr Lewis Travis.