Croeso i ras Ironman Abertawe ond busnesau'n cwestiynu amseriad

  • Cyhoeddwyd
Torfeydd ar y llinell derfyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 2,000 yn cystadlu yn y ras a miloedd yn rhagor yno'n cefnogi

Mae perchnogion busnes yn ardal Abertawe wedi cwestiynu ai ar ddydd Sul yng nghanol y gwyliau haf oedd yr amser gorau i gynnal ras hanner Ironman.

Roedd mwy na 2,000 o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiad a miloedd yn rhagor yn cefnogi'r athletwyr. 

Bu'n rhaid cau nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas ac ym Mhenrhyn Gŵyr ac mae hynny wedi arwain at gwestiynau ynglŷn â sut i gynnal cydbwysedd rhwng cynnal digwyddiadau mawr a chadw ymwelwyr y gwyliau haf yn hapus.

Mae Cyngor Abertawe wedi amddiffyn y digwyddiad gan ddweud bod yn rhaid cau ffyrdd er mwyn sicrhau diogelwch a bod y digwyddiad wedi bod yn hwb i economi'r sir.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carys Bill o Gaerdydd wrth ei bodd wrth groesi'r llinell derfyn yn drydydd yng nghategori 18-24 oed.

Bu 2,300 yn cymryd rhan yn yr Ironman 70.3, sef hyd y cwrs mewn milltiroedd.

"Roedd y cwrs yn anhygoel gyda golygfeydd bendigedig gyda llwyth o bobol yn dod mas o'u tai i'n cefnogi ni" meddai Carys Bill, 21, o Gaerdydd ddaeth yn drydydd yn y categori 18-24 oed.

Ond, fe wnaeth y ras greu problemau hefyd. Roedd nifer o ffyrdd wedi cau o gwmpas canol y ddinas ac ar Benrhyn Gwyr ar gyfer y seiclo.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rob Morgan, mae'r ras yn cael ei chynnal ar adeg anghywir y flwyddyn

Mae Rob Morgan sy'n rhedeg fferm blodau haul Rhosili yn croesawu'r digwyddiad ond mae'n gofyn a'i dyma'r adeg iawn i gynnal digwyddiad o'r fath.

"Mae hi wedi bod yn hunllef heddiw gyda'r ffyrdd wedi cau. Does dim llawer o ffyrdd ar Benrhyn Gŵyr beth bynnag, felly roedd hyn yn gur pen mawr," meddai.

"Mae hi'n grêt bod Abertawe wedi cael digwyddiad fel hyn ond doedd dim digon o rybudd a dim digon o drafod efo busnesau fel ni."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd sawl ffordd ar gau oherwydd y ras

Dywedodd Brian Davies sy'n berchen ar siop nwyddau pysgota yn Nhregŵyr na ddylai'r ras gael ei chynnal ym mis Gorffennaf nag Awst.

"Dyw llawer o bobl ddim wedi gallu mynd allan gan fod ffyrdd ar gau," dywedodd wrth ychwanegu bod gwerthiant ei siop wedi haneru ddydd Sul.

"Dyw hi ddim wedi bod yn rhy ddrwg i fi, ond dw i'n teimlo'n ofnadwy dros fusnesau yng nghalon Gŵyr."

'O fudd i'r economi'

Mae Cyngor Abertawe yn mynnu bod digon o rybudd wedi'i roi am gau ffyrdd er mwyn diogelwch.

Yn ôl yr awdurdod mae'r digwyddiad wedi dod a dros £2.5m i economi'r Sir.

"Mae sawl her wrth cynnal digwyddiadau chwaraeon bendigedig fel hyn ond mae wedi bod o fudd mawr i economi'r sir," meddai'r Robert Francis-Davies, yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am dwristiaeth ar Gyngor Abertawe.

"Roedd hyn yn benwythnos arbennig o chwaraeon rhyngwladol fu'n rhoi sylw gwych ar Abertawe," meddai.

Mae hi'n uchelgais gan y cyngor i gynnal rhagor o ddigwyddiadau mawr fel hyn yn y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig