Heddlu yn apelio am wybodaeth i ffrwgwd mewn mynwent
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi gwneud apêl am ragor o wybodaeth gan y cyhoedd am ddigwyddiad mewn mynwent yn Abertawe, lle cafodd dau berson anafiadau difrifol.
Cafodd tri person eu harestio yn dilyn yr hyn a ddisgrifiwyd gan yr heddlu fel "digwyddiad gofidus iawn" ym Mynwent Treforys brynhawn dydd Gwener.
Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae un o'r ddau gafodd eu hanafu bellach wedi cael dod adref, ond mae'r llall yn dal yn yr ysbyty.
'Gofidus iawn'
Cafodd heddlu arbenigol, gan gynnwys swyddogion arfog a hofrennydd yr heddlu eu hanfon i'r lleoliad ychydig cyn 15:00 dydd Gwener, mewn ymateb i ddigwyddiad "oedd yn cynnwys grŵp mawr o unigolion".
"Roedd hwn yn ddigwyddiad gofidus iawn i aelodau'r cyhoedd oedd yn y fynwent ac mewn gwasanaeth yn yr amlosgfa," dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price o uned CID Abertawe.
Dywedodd y Prif Arolygydd Stuart Johnson: "Gadawyd dau berson gydag anafiadau difrifol yn sgil y digwyddiad a tra'n bod ni wedi gwneud sawl arest, rwyf yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am yr hyn ddigwyddodd i ddod ymlaen a siarad gyda ni."
Ychwanegodd fod yr ymchwiliad yn parhau.