Agor drysau'r byd celfyddydol i bobl ifanc bregus
- Cyhoeddwyd
Rhoi cyfle i bobl ifanc bregus gael blasu'r celfyddydau, gan obeithio y bydd yn rhoi hwb iddyn nhw ym mhob agwedd o'u bywydau, yw nod cynllun newydd yn y gogledd.
Mae'n gynllun yn un ar y cyd rhwng cwmni theatr ieuenctid Frân Wen ac elusen GISDA, sy'n rhoi cymorth i bobl ifanc bregus rhwng 14 a 25 oed yng ngogledd Cymru.
Mae'n fwriad i'r bartneriaeth fod yn un hirdymor.
Fe fydd criw o artistiaid ifanc yn mynd i gymunedau ar draws y gogledd i gynnal prosiectau o bob math.
"Bydd hwn yn gynllun creadigol sydd yn cynnig cyfle i bobl ifanc yr ardal fod yn rhan o rywbeth creadigol," meddai Gethin Evans, cyfarwyddwr artistig Frân Wen.
Ychwanegodd mai'r nod yw sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn gallu "mynegi eu hunain, gwneud rhywbeth 'dyn nhw 'rioed wedi gwneud o'r blaen trwy rwydwaith ar draws yr ardal".
Mae Siân Elen Tomos, prif weithredwr GISDA, yn credu y bydd y cynllun yn "gwneud gwahaniaeth mawr" i fywydau pobl ifanc.
"'Dwi'n meddwl i ddechra' bod yn rhaid torri rhwystrau mewn cymuned, bod theatr yn rhywbeth i bobl eraill," meddai.
"'Dan ni angen perthnasu fo… gwneud yn saff bod pobol ifanc yn ei weld o fel rhywbeth iddyn nhw, ac mae cyfleu hynna mewn gwaith theatr yn gwneud andros o wahaniaeth i fel ma' nhw'n teimlo amdanyn nhw eu hunain.
"A gobeithio, ella, pwy a ŵyr, fyddan nhw'n dilyn gyrfa eu hunain yn y maes yn y dyfodol felly."
Mae'n gyfnod cyffrous iawn i bawb sydd ynghlwm â Frân Wen wrth i waith fynd yn ei flaen i sefydlu cartref newydd i'r cwmni yn adeilad Eglwys y Santes Fair ym Mangor.
Mewn cynllun sy'n costio £5m mae'r hen eglwys yn cael ei thrawsnewid i fod yn ganolfan theatrig o'r radd flaenaf. Nyth fydd enw'r ganolfan newydd.
"Mi fydd Nyth yn gartref i Frân Wen ac hefyd yn adnodd cymunedol i Fangor ac yn hwb i artistiaid gogledd Cymru," meddai Nia Jones, cyfarwyddwr gweithredol y cwmni.
Y disgwyl ydy y bydd Nyth yn agor ei drysau yn ystod gwanwyn 2023.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019