Drama yn cefnogi cais am bardwn i Dic Penderyn

  • Cyhoeddwyd
golygfa o'r ddrama
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o'r ddrama Camwedd, sy'n teithio i Gaeredin yr wythnos hon

Mae drama am löwr o Gymru, y credir iddo gael ei grogi ar gam yn 1831, wedi cyrraedd Gŵyl Ymylol Caeredin.

Mae Camwedd yn dilyn hanes Richard Lewis, neu Dic Penderyn, a gafodd ei arestio yn ystod terfysgoedd Merthyr am anafu milwr.

Mae'r cast, sy'n cynnwys gweithwyr dur a chyfreithwyr, yn gobeithio bydd y ddrama yn codi ymwybyddiaeth am ddeiseb sy'n galw am bardwn i ferthyr y dosbarth gweithiol.

Mae'r ddrama yn ganlyniad i ymdrech cymunedol enfawr, meddai'r dramodydd amatur, Stuart Broad, sydd o'r un dref.

Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Stuart Broad bum mlynedd yn cyd-ysgrifennu a chynhyrchu'r ddrama

Cafodd Richard Lewis ei arestio ym Mehefin 1831 ynghyd ag arweinydd gwrthryfel y dosbarth gweithiol ym Merthyr Tudful, Lewis Lewis.

Dim ond Richard Lewis gafodd ei gyhuddo o drywanu a chlwyfo milwr gyda bidog yn ystod y terfysgoedd.

Ar y pryd, arwyddodd miloedd ddeiseb yn tystio ei fod yn ddieuog ond er hynny cafodd ei grogi yng ngharchar Caerdydd.

Yn dilyn ei farwolaeth, fe ddaeth Dic Penderyn yn ferthyr dosbarth gweithiol y Cymry.

"Roedd angen bwch dihangol ar yr awdurdodau ac fe gafodd Richard Lewis ei fframio â'r drosedd o drywanu milwr, Donald Black, yn ystod y gwrthryfel," meddai Stuart Broad a dreuliodd bum mlynedd yn cyd-ysgrifennu a chynhyrchu'r ddrama.

"Roedd tystion wrth law i adrodd yr hyn a welon nhw. Dim ond ar ôl iddo gael ei grogi y gwnaethon nhw gyfaddef eu bod wedi dweud celwydd dan lw."

Disgrifiad o’r llun,

Y barnwr a'r byddigion yn penderfynu tynged Dic

Mae cast y sioe yn llawn actorion amatur, gan gynnwys gweithwyr dur, cyfreithwyr a rhai actorion proffesiynol sy'n gweithio am ddim.

Cafodd y set, y gwisgoedd a'r propiau eu creu ar gyfer y sioe yn ystod anterth y pandemig.

Mae'r ddrama 180 o dudalennau eisoes wedi'i pherfformio yn Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot a'r Redhouse ym Merthyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae James Morgan, sy'n chwarae rhan Dic, yn cyfaddef na wyddai ddim amdano cyn y ddrama

Mae deiseb wedi'i chreu i gyd-fynd â'r ddrama sy'n cael ei pherfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin (neu'r Edinburgh Fringe) yr wythnos hon.

"Mae'n gyfle i ni ddathlu moment falch a hollbwysig yn hanes Cymru lle bu'r gweithwyr yn ymladd ac yn marw dros nifer o freintiau rydyn ni'n eu mwynhau heddiw ac efallai'n eu cymryd yn ganiataol," meddai Mr Broad.

"Ond nid yn unig i ddathlu, ond efallai i greu hanes ein hunain hefyd.

"Gyda'r platfform sydd gennym ni yn mynd i ŵyl gelfyddydol fwyaf y byd yng Nghaeredin, mae gennym ni ddeiseb sy'n anelu i sicrhau pardwn ar ôl marwolaeth i Richard Lewis.

'Rhywbeth i wneud â wisgi'

Dywedodd James Morgan, sy'n chwarae rhan Dic Penderyn, nad oedd yn gwybod pwy oedd Dic Penderyn cyn y ddrama.

"Roeddwn i'n meddwl ei fod yn rhywbeth i wneud â wisgi - rwy'n meddwl bod llawer o bobl yn gwneud yr un camgymeriad!

"Ond wedi i mi dreulio amser yn y Redhouse ym Merthyr, ac mae yna ambell i blac ar y wal, fe wnaeth hwnna ysgogi fi i ddysgu ychydig mwy am Dic Penderyn.

"Rwy'n cofio meddwl y byddai'n gwneud ffilm wych. Ges i fy nghyffroi pan ges i'r alwad am glyweliad ar gyfer hwn ac fel y gallwch ddychmygu, roeddwn wrth fy modd yn cael fy nghastio fel Dic Penderyn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hannah Beth na chafodd ddim o hanes Dic Penderyn yr ysgol

Dywedodd Hannah Beth sy'n chwarae rhan pypedwr yn y sioe: "Roedd e'n ddiddorol iawn i fi ddarllen y sgript a dysgu am yr hanes achos ges i ddim yr addysg ynglŷn â'r hanes yma.

"Mae'r ffaith bod y sioe wedi cael ei hysgrifennu gan bobl o'r ardal, pobl Cymraeg sy'n gyfarwydd â'r stori ac wedi buddsoddi cymaint o'u hamser yn creu'r ddrama yma - rydw i'n browd iawn i allu mynd â sioe o'r safon yma i'r ŵyl yng Nghaeredin."

Disgrifiad o’r llun,

Plac i goffau Dic Penderyn tu allan i Lyfrgell Merthyr Tudful

Cafodd Dic Penderyn, a oedd yn 23 oed ar y pryd, ei grogi yn Nghaerdydd ar 13 Awst, 1831, ger safle Marchnad y Ddinas heddiw.

Daw teitl y sioe o'i eiriau olaf ar y crocbren, ac yntau'n dal i fynnu ei fod yn ddieuog: "O Arglwydd dyma gamwedd."

Mae Camwedd i'w gweld yn Theatr y Thistle Caeredin, tan ddydd Sadwrn 13 Awst.

Pynciau cysylltiedig