Croeso cynnes i athletwyr Cymru o Gemau'r Gymanwlad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Fe wnaeth Cymry o bob oed ymgasglu ger grisiau'r Senedd ddydd Gwener

Mae athletwyr Tîm Cymru wedi eu croesawu gartref o Gemau'r Gymanwlad yn ystod seremoni ym Mae Caerdydd.

Ar ôl sicrhau 28 medal yn ystod y gemau yn Birmingham, roedd y Prif Weinidog ymysg y rheiny i'w llongyfarch yn y Senedd.

Mae Tîm Cymru "unwaith eto wedi gwneud ein cenedl yn falch", meddai David Rees AS, Dirprwy Lywydd y Senedd.

"Does dim amheuaeth bod yr ymroddiad, y chwarae teg a'r gwaith caled yn wir ysbrydoliaeth i ni i gyd.

"Unwaith eto maen nhw wedi profi bod Cymru yn genedl o arwyr."

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Sicrhaodd Cymru 28 medal, sef wyth aur, chwe arian ac 14 efydd.

Ymysg y prif atgofion o'r gemau fydd medal aur Olivia Breen yn y gystadleuaeth 100m T37/T38, gan drechu'r ffefryn o Loegr, Sophia Hahn.

Ar yr un diwrnod llwyddodd Daniel Salmon a Jarrad Breen hefyd i sicrhau medalau aur ar ôl trechu Lloegr yn rownd derfynol parau'r bowlio lawnt.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Olivia Breen ymysg yr athletwyr i fynychu'r seremoni yn y Senedd brynhawn Gwener

Yn y felodrom sicrhawyd cyfanswm o chwe medal, gan gynnwys aur i James Ball a Matthew Rotherham yn y ras 1,000m yn erbyn y cloc i bara athletwyr, a dwy fedal efydd i Emma Finucane.

Gyda'r taflwr disgen Aled Sion Davies yn sicrhau aur yn y para athletau, roedd 'na fedal arian hanesyddol i'r bowliwr 75 oed Gordon Llewellyn, wrth iddo a Julie Thomas ddod yn ail yn y para-bowlio lawnt i barau cymysg B2/B3.

Wrth i'r gemau ddirwyn i ben daeth Joshua Stacey y Cymro cyntaf erioed i fod yn bencampwr para tennis bwrdd, gyda Chymru hefyd yn sicrhau dwy fedal aur yn y bocsio diolch i Rosie Eccles a Ioan Croft.

Daeth aur hefyd i Gemma Frizzelle yn rownd derfynol yr 'hoop' yng nghystadleuaeth y gymnasteg rhythmig.

'Rhaid i ni fwynhau e tra ry' ni yma'

Yn siarad yn y Senedd brynhawn Gwener dywedodd Gordon Llewellyn, sy'n hannu o Ystradgynlais, ei fod yn "falch nad oedd wedi gadael pobl i lawr".

Disgrifiad o’r llun,

Gordon Llewellyn, yn 75 oed, yw'r Cymro hynaf erioed i ennill medal yn y gemau

Gyda'i fedal arian o gwmpas ei wddf, dywedodd: "Mae chwarae i'ch gwlad yn rywbeth arbennig.

"Mae [mynd ar y podiwm] yn deimlad arbennig, er nace'r medal oedden ni moyn, ac i weld y Ddraig Goch yn dringo i dop y polyn, ar y diwrnod oedd Robert a Mel tamed bach gwell na ni. ond mae'n rhaid i ni fod yn hapus gyda be' sydd da ni.

"Mae gemau Victoria 2026 yn teimlo'n bell iawn ar y funud ond cawn ni weld!

"Mae'n beth mawr i ddod i'r Senedd a cwrdd â'r bobl hyn, fi'n licio Mr Drakeford fy hunan... mae'n rhaid i ni fwynhau e tra ry' ni yma."

Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Aled Sion Davies i gipio un o wyth medal aur Cymru o'r gemau

Dywedodd Aled Sion Davies, a enillodd aur dros ei wlad: "Y freuddwyd oedd i fynd ar y podiwm a chanu Hen Wlad fy Nhadau... sai'n gallu credu e.

"Mae'n sbesial iawn, fi mor proud i fod yn Gymro a mae'r tîm wedi bod yn anhygoel a ni gyd wedi bod yn cefnogi'n gilydd.

"I gael y stadiwm yn llawn bob dydd, roedd yn anhygoel... roedd yn sbesial iawn a roedd Birmingham wedi gwneud job dda iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd pob un o athletwyr Cymru fedal yn y seremoni yng Nghaerdydd

Pynciau cysylltiedig