Holl fedalau Cymru o Gemau'r Gymanwlad 2022
- Cyhoeddwyd

Enillodd Gemma Frizelle aur yn rownd derfynol yr 'hoop' yng nghystadleuaeth y gymnasteg rhythmig
Mae Tîm Cymru wedi hel cyfanswm o 28 o fedalau yn Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham - wyth aur, chwech arian a 14 efydd - sy'n golygu ein bod wedi gorffen yn wythfed o'r 72 gwlad eleni.
Para-athletwyr wnaeth gyfrannu i hanner y medalau aur gyda'r athletwyr Aled Sïon Davies ac Olivia Breen, y beiciwr James Ball a'r chwaraewr tenis bwrdd Joshua Stacey yn cyrraedd y brig.
Ar y cyfan fe gafwyd saith medal i redwyr trac a seiclo, chwech i focsio, tair i athletau a bowls, dau i jiwdo a nofio ac un yr un i sboncen, treiathlon a gymnasteg.
Dyma'r holl fedalau.
Medalau Aur (8)
Athletau
Aled Sion Davies - disgen

Aled Sion Davies OBE o Benybont
Olivia Breen - rhedeg trac 100m

Olivia Breen gafodd ei geni yn Guilford i fam o Gymru
Bocsio
Ioan Croft - pwysau welter

Ioan Croft a'i efaill Garan o Grymych
Rosie Eccles - pwysau canol ysgafn
Seiclo
James Ball - sbrint tandem

James Ball (dde) a'r peilot Matthew Rotherham
Gymnasteg
Gemma Frizelle - 'hoop'
Bowlio Lawnt
Jarrad Breen a Daniel Salmon

Daniel Salmon a Jarrad Breen gyda'u medalau aur
Tenis Bwrdd
Joshua Stacey - senglau 8-10

Joshua Stacey yn dathlu ennill aur
Medalau Arian (6)
Bocsio
Taylor Bevan - pwysau ysgafn trwm
Seiclo
James Ball - tandem dynion 1km
Jiwdo
Natalie Powell - merched -78kg

Natalie Powell o Ferthyr Tudful
Bowlio Lawnt
Gordon Llewellyn a Julie Thomas - parau gyda nam golwg

Gordon Llewellyn o Ystradgynlais a Julie Thomas o Bort Talbot
Sboncen
Joel Makin - senglau'r dynion

Joel Makin o Hwlffordd
Treiathlon
Dominic Coy, Iestyn Harriet, Olivia Mathias, Non Stanford - tîm cymysg
Medalau Efydd (14)
Athletau
Harrison Walsh - disgen
Nofio
Medi Harris - strôc cefn 100m

Medi Harris o Borthmadog
Lily Rice - stroc gefn 100m s8
Bocsio
Garan Croft - pwysau canol ysgafn
Jake Dodd - pwysau pry
Owain Harris-Allan - pwysau bantam

Owain Harris-Allan o Gaerdydd (dde)
Seiclo
Eluned King - ras bwyntiau 25km
Emma Finucane - sbrint merched
Rhian Edmunds, Emma Finucane, Lowri Thomas - sbrint tîm

Rhian Edmunds, Emma Finucane, a Lowri Thomas
Geraint Thomas - treialon amser sengl
William Roberts - ras scrats 15km
Jiwdo
Jasmine Hacker-Jones - merched -63kg

Jasmine Hacker-Jones
Bowlio Lawnt
Owain Dando, Ross Owen, Jonathan Tomlinson - triawd dynion
Tenis Bwrdd
Charlotte Carey, Anna Hursey - merched dwbl

Charlotte Carey o'r Fenni ac Anna Hursey o Gaerfyrddin
Hefyd o ddiddordeb: