Ateb y Galw: John Eifion

  • Cyhoeddwyd
John EifionFfynhonnell y llun, Brythoniaid
Disgrifiad o’r llun,

John Eifion

Y tenor ac arweinydd Côr y Brythoniaid, John Eifion, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd i Ysgol Gynradd Llangybi a mynd i doilet y genod yn lle toilet yr hogia!

Ffynhonnell y llun, Brythoniaid
Disgrifiad o’r llun,

John Eifion

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Adra efo Marina, fy ngwraig, Lois ac Anest, fy nwy ferch, Nelw Siôn, fy wyres ac Urien Siôn, partner Lois.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan hannahgwenllian20

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan hannahgwenllian20

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ar wahan i briodi Marina a genedigaeth y genod, mi gefais i noson gofiadwy iawn gan drigolion pentref Penisarwaun ar ôl i mi ennill Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1999.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Teuluol, bodlon, trefnus.

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Rhif 6
Disgrifiad o’r llun,

Côr y Brythoniaid yng Ngŵyl Rhif 6, buont yn enw amlwg blynyddol yn yr ŵyl

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Ar ôl canu mewn cyngerdd yn Llanrhaeadr ym Mochnant efo Côr Meibion Caernarfon mi aeth pawb am ddiferyn i'r gwesty lleol. Fe gododd y canu eto a thra yn ei morio hi fe wnaeth un o'r trigolion ddal fy sylw a fy nghymell i fynd ato. Dyma fo'n dweud "mae nhw'n dweud mai John Eifion ydych chi". "Ie" meddwn innau. "Dwi ddim yn meddwl" meddai yntau. "Wel ia" meddwn innau! "Na!!" meddai'r gŵr, "mae John Eifion yn well canwr na chi!!". Mae honna yn berffaith wir!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Anghofio geiriau tra'n canu yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth, Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan, Eisteddfod Garndolbenmaen, Cyngerdd Gŵyl Conwy, ........... Dwi ddim yn cofio beth oedd y cwestiwn erbyn hyn!!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Bore dydd Gwener 7ed o Ionawr eleni - cael galwad ffôn o ysbyty Gwynedd gan Urien i ddweud fod fy wyres fach - Nelw Siôn wedi cyrraedd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes - nifer helaeth!! Mae fy nheulu yn dweud mai gwylio Columbo ar ddydd Sul a phrynu dau o bob dim wrth wneud neges ydy'r rhai amlwg!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Albwm 'Spark To A Flame' gan Chris De Burgh. Hon oedd gen i yn y car pan yn teithio o Aberystwyth i Bangor i weld Marina pan yn y coleg.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Criw o hogia Côr y Brythoniaid oherwydd y Gymdeithas a'r hwyl.

Ffynhonnell y llun, Thinkdewinter
Disgrifiad o’r llun,

John Eifion, arweinydd Côr Y Brythoniaid, yn arwain y tenoriaid mewn ymarfer ar gyfer Eisteddfod Llangollen 2017

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi wedi cystadlu ar gystadleuaeth barnu gwartheg bîff yn sioe Smithfield yn Llundain.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ymuno efo Slimmimg World neu Weight Watchers!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun ohona i a Nelw. Wedi mopio'n lân!

Ffynhonnell y llun, John Eifion
Disgrifiad o’r llun,

John Eifion a'i wyres Nelw

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dwi erioed wedi dyheu i fod yn neb arall. Hapus iawn i fod yn fi fy hun. Ond o gael dewis byddai bod yn Gareth Edwards ar y diwrnod y sgoriodd y cais enwog i'r Barbarians yn plesio.

Hefyd o ddiddordeb: