Lefel diweithdra yng Nghymru yn parhau'n isel

  • Cyhoeddwyd
Canolfan byd gwaithFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae lefel diweithdra yng Nghymru yn parhau'n isel, er i nifer y bobl sydd mewn gwaith ostwng ychydig yn y tri mis hyd at Fehefin.

3.8% yw cyfradd diweithdra Cymru yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr un lefel â'r cyfartaledd ledled y DU.

Mae cyfanswm o 58,000 o bobl sy'n ddi-waith ac yn chwilio am swydd - cynnydd o 13,000 o'i gymharu â'r tri mis hyd at fis Mawrth.

Ond yng Nghymru hefyd gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sydd ddim yn gweithio, ond sydd ddim ar gael i weithio chwaith.

Gall hyn fod oherwydd sawl rheswm, fel eu bod yn sâl, yn gofalu am rywun neu'n fyfyrwyr llawn amser.

O ganlyniad roedd 7,000 yn llai o bobl mewn gwaith yng Nghymru ym mis Mehefin o'i gymharu â mis Mawrth.

Ledled y DU, mae'r ffigyrau'n dangos fod tâl gwirioneddol yn gostwng yn gynt nag erioed.

Mae cyflogau, pan yn cael eu cymharu â phrisiau cynyddol, wedi gostwng 3% mewn blwyddyn yn ôl y Swyddfa Ystadegau.

Pynciau cysylltiedig