Datgelu cyfrinachau Cwm Elan wedi'r tywydd sych

  • Cyhoeddwyd
Cronfa ddŵr Cwm ElanFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sychder yn golygu bod modd gweld waliau'r gerddi lle bu Shelley ar un adeg yn cerdded gyda'i wraig Harriet - waliau sydd fel arfer o dan gronfa ddŵr Cwm Elan

Mae olion plasty rhamantus a gysylltir gyda bardd enwog wedi eu datgelu am y tro cyntaf ers degawdau wedi i'r lefelau dŵr yng Nghwm Elan ostwng wedi'r tywydd cynnes.

Mae Nantgwyllt - maenordy oedd yr awdur Percy Bysshe Shelley eisiau ei brynu i'w wraig ifanc ym 1812 - wedi bod o dan y dŵr am dros ganrif wedi i'r cwm gael ei foddi i greu cronfa.

Ond mae ei weddillion wedi'u dadorchuddio am y tro cyntaf ers blynyddoedd wrth i gronfa ddŵr Cwm Elan ddatgelu ei chyfrinachau.

Ffynhonnell y llun, Fabian Musto/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fel arfer mae'r waliau wedi eu gorchuddio o dan ddŵr cronfa Caban Coch, sy'n un o argaeau Cwm Elan ger Rhaeadr

Mae'r wythnosau o dywydd sych yn golygu fod modd gweld waliau'r ardd lle bu Shelley ar un adeg yn cerdded gyda'i wraig Harriet yn ei harddegau yn ogystal â sylfaen y plasty lle ysgrifennodd Shelley yn ystod ei ymweliadau.

'Anhygoel ei weld yn dod allan'

Cofnodwyd mai un o nodweddion mwyaf trawiadol y tu mewn i'r tŷ oedd "grisiau eang a mawreddog iawn wedi'u gwneud o hen dderw."

Meddiannwyd y maenordy gan beirianwyr i greu cronfa ddŵr Caban Coch yn 1903 - un o nifer o gronfeydd dŵr a wnaeth gyflenwi anghenion dros 500,000 o bobl yn ninas Birmingham.

Cafodd y plas ei ddymchwel cyn cwblhau'r argaeau er bod waliau'r ardd, pontydd carreg ac olion traed wedi goroesi.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r maenordy ei hun wedi ei hen ddymchwel

Dywedodd Martin Thomas, a oedd yn cerdded gerllaw: "Mae'n anhygoel ei weld yn dod allan o dan yr holl ddŵr. Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn lle anhygoel i aros os oedd rhywun fel Shelley yn ei garu cymaint.

"Mae mor brin gweld y dŵr mor isel oherwydd y sychder. Mae'n brydferth yma ond jyst mewn ffordd gwahanol nawr."