Ryan Giggs 'wedi ceisio atal chwaer cyn-gariad i beidio achwyn'

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddiswyddodd Ryan Giggs fel rheolwr Cymru yn gynharach eleni

Mae Ryan Giggs wedi dweud wrth lys ei fod wedi ceisio atal chwaer ei gyn-gariad rhag gwneud cwyn i'r heddlu ar y noson y cafodd ei gyhuddo o ymosod ar y ddwy.

Pan ofynnwyd iddo pam wnaeth o geisio gwneud hynny, gan grybwyll ei ferch fel rheswm arall dros beidio achwyn, dywedodd Mr Giggs ei fod "ddim yn gwybod".

Mae cyn-seren Manchester United a Chymru, 48, wedi'i gyhuddo o reoli Kate Greville drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer Emma Greville.

Mae Mr Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

'Creu naratif o ddioddefwr'

Wrth barhau i gael ei groesholi gan Peter Wright QC ddydd Iau, cafodd Mr Giggs ei gyhuddo gan y bargyfreithiwr o geisio rhoi'r argraff mai ef oedd y dioddefwr yn y digwyddiad gyda'r ddwy chwaer.

Fe gyfeiriodd at ddatganiad Mr Giggs i'r heddlu y diwrnod wedyn, lle mae'r cyn bêl-droediwr yn dweud mai arno ef oedd yr ymosodiad, ac nid ar y chwiorydd.

Gofynnwyd iddo a oedd yn cytuno bellach mai dyna'r gwirionedd? "Nac ydw," meddai Ryan Giggs wrth Lys y Goron Manceinion.

"Pam rhoi hynny yn eich datganiad, felly?" gofynnodd y bargyfreithiwr. "Dwi ddim yn gwybod," meddai Mr Giggs.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gwadodd Ryan Giggs ei fod wedi ceisio defnyddio blacmel emosiynol i annog Emma Greville i beidio ffonio'r heddlu

"Roeddech chi'n ceisio creu naratif… i'r roi'r argraff mai chi oedd y dioddefwr," awgrymodd Mr Wright wrth Ryan Giggs.

"Nag oeddwn," oedd ymateb Mr Giggs.

Aeth y bargyfreithiwr ymlaen i ddweud wrth Ryan Giggs ei fod wedi colli "hunan-reolaeth" yng nghyd-destun ei ffrae efo Kate Greville, a'i fod wedi ei tharo gyda'i ben yn fwriadol.

Ond gwadu hynny unwaith eto wnaeth Mr Giggs, yn ogystal â'r honiad ei fod wedi bygwth gwneud yr un peth i Emma Greville.

Galwad 999

Gofynnodd Mr Wright iddo wedyn pam ei fod wedi "ceryddu" Emma Greville am alw'r heddlu. "Dwi ddim yn gwybod," oedd ateb Mr Giggs.

Yn yr alwad 999 mae Emma Greville i'w chlywed yn dweud bod Mr Giggs wedi taro'i ben yn erbyn ei chwaer Kate, ac ymosod arni.

Gofynnodd Mr Wright i Mr Giggs, oedd yn clywed y sgwrs ar y pryd, pam na ddywedodd unrhyw beth i herio hynny.

"Dwi ddim yn gwybod," meddai.

Mae Mr Giggs i'w glywed yng nghefndir yr alwad yn dweud "ti wnaeth ff***** achosi hyn", ond pan ofynnodd Mr Wright iddo beth oedd wedi ei olygu wrth hynny, dywedodd Mr Giggs unwaith eto nad oedd yn gwybod.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r trydydd diwrnod i Ryan Giggs ei hun roi tystiolaeth yn Llys y Goron Manceinion

Yn yr alwad mae Emma Greville yn mynd ymlaen i ddweud: "Mae o newydd ei tharo hi yn ei hwyneb efo'i ben. Ryan, ga'i ddweud unrhyw beth dwi eisiau ff***** ddweud. Ti newydd daro fy chwaer efo dy ben."

Gofynnodd Mr Wright i Mr Giggs yn y llys: "Roeddet ti'n ceisio ei pherswadio hi i beidio gwneud y gŵyn?"

"Oeddwn," meddai Mr Giggs. "Pam?" gofynnodd Mr Wright. "Dwi ddim yn gwybod," atebodd.

Yn yr alwad mae Emma Greville hefyd yn cael ei chlywed yn dweud: "Does dim ots gen i os ydy dy ferch di'n 17. Does dim ots gen i am dy ferch."

Awgrymodd Mr Wright fod Mr Giggs wedi ceisio defnyddio ei ferch fel rheswm i annog Kate Greville i beidio cwyno i'r heddlu.

"Do," meddai Mr Giggs. "Pam?" gofynnodd Mr Wright. "Dwi ddim yn gwybod," atebodd unwaith eto.

'Pam ddim dweud damwain?'

Yn ddiweddarach y noson honno, wrth siarad â swyddog heddlu, mae Mr Giggs yn dweud ei fod "wedi ei tharo yn ei gwefus".

"Pam ddim dweud mai damwain oedd e?" gofynnodd Mr Wright. "Dwi ddim yn gwybod," atebodd Mr Giggs.

"Roeddet ti wedi ymosod arni, yn doeddet?" meddai. "Na," meddai Mr Giggs.

Awgrymodd Mr Wright fod Mr Giggs hefyd wedi ceisio cael ei "stori yn iawn" wrth aros am yr heddlu, gan roi'r argraff ei fod yn croesawu'r ffaith eu bod nhw wedi cyrraedd.

Awgrymodd hefyd y byddai Mr Giggs wedi parhau i fod yn "flin ac ymosodol" nes eu bod nhw'n cyrraedd, gyda Mr Giggs yn ateb "na" i'r ddau honiad.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn gyrfa bêl-droed lwyddiannus gyda Manchester United treuliodd Ryan Giggs gyfnod fel rheolwr Cymru

Clywodd y llys hefyd fod Mr Giggs a Ms Greville yn gyrru cerddi cariadus at ei gilydd, a gafodd eu darllen i'r llys.

Bu Ryan Giggs hefyd yn ateb cwestiynau am natur ei berthynas gyda Kate Greville, a'u bod nhw'n blocio eu gilydd yn aml ar-lein.

Fe wnaeth Kate Greville geisio dod â'r berthynas i ben sawl gwaith, ac fe wnaeth Mr Giggs gydnabod ei fod wedi anfon negeseuon ati sawl gwaith ar yr adegau hynny, yn ogystal â mynd draw i'w thŷ "heb rybudd".

Gwadodd mai ymgais i'w "rheoli" hi oedd hynny, gan ddweud ei fod yn ceisio "ailgynnau'r berthynas".

"Roedd hi'n hapus mod i wedi parhau a mod i wedi ymladd drosti," meddai.

Gofynnwyd iddo hefyd am ei ddefnydd o'r term "stelcian" mewn negeseuon i Kate Greville.

Ond mewn ymateb dywedodd Mr Giggs fod hynny'n rhywbeth roedd y ddau ohonyn nhw'n ei wneud, ac mai term am "gadw llygad ar ein gilydd" oedd o - gan gynnwys unwaith pan anfonodd Ms Greville neges ato'n dweud ei bod hi'n ei "stelcian o ar-lein" tra'i fod ffwrdd gyda charfan Cymru.

Mae'r achos yn parhau.