Teyrnged i fam ifanc fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar

  • Cyhoeddwyd
Anna Roberts a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Anna Roberts (dde) gyda'i phartner Iwan a'u merch Erin

Mae teulu dynes ifanc a fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar yn oriau mân fore Sadwrn wedi rhoi teyrnged i berson "arbennig iawn".

Bu farw Anna Llewelyn Roberts, 27, mewn gwrthdrawiad â char toc wedi 02:00 wrth iddi gerdded ar yr A499 yn Y Ffôr, Gwynedd.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion a gwybodaeth ar ôl y digwyddiad ar gyrion Pwllheli.

Yn y cyfamser, mae teulu Anna, a oedd yn lleol i'r ardal, wedi cyhoeddi teyrnged iddi.

"Roedd Anna yn gymar, mam, merch, chwaer, wyres a ffrind arbennig iawn," meddai.

"Yn llawn balchder am ei merch fach Erin a'i bywyd yn troelli o'i hamgylch.

"Ei hannwyl gariad Iwan, ei theulu a'i chydweithwyr yn Rondo Media oedd popeth iddi.

"Nid oes unrhyw eiriau nac emosiwn i gyfleu ein colled, ni fydd ein bywydau fyth yr un fath heb Anna."

Roedd Ford Focus du yn y gwrthdrawiad ac roedd hwn yn teithio tuag at ardal Pwllheli.

Mae'r Sarjant Emlyn Hughes o'r Uned Plismona Ffyrdd yn apelio am dystion.

Dywedodd: "Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â theulu Anna ar yr adeg anodd yma.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal ac sydd â ffilm camera cerbyd, i gysylltu â ni ar unwaith drwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan roi'r rhif cyfeirnod 22000613331."

Pynciau cysylltiedig