Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 5-0 Maidstone
- Cyhoeddwyd
Roedd yna wledd o goliau, gan gynnwys hat-tric i Paul Mullin i wefreiddio'r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney oedd ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn i weld Wrecsam yn rhoi crasfa i Maidstone yn y Gynghrair Genedlaethol.
5-0 oedd y sgôr terfynol wrth i Wrecsam sicrhau eu hail fuddugoliaeth o'r tymor - y tro cyntaf i McElhenney weld y tîm yn ennill gyda'i lygaid ei hun yn hytrach nag ar sgrin.
Roedd hi'n 3-0 erbyn diwedd yr hanner cyntaf wedi goliau gan Paul Mullin (9), Jordan Davies (39), a gôl oddi ar un o amddiffynwyr Maidstone, Dominic Odusanya (45+3).
Ond fe allai Wrecsam fod wedi gallu sgorio o leiaf tair yn fwy, ac fe fethodd Mullin gyfleoedd gwell na'r un a ddiweddodd yng nghefn y rhwyd.
Ond fe sgoriodd Mullin am yr eildro wedi'r egwyl - o'r smotyn ( 64) wedi achos o lawio yn y cwrt cosbi - ac yna'r drydedd wedi 82 o funudau.
Mae'r triphwynt yn golygu bod Wrecsam wedi codi i'r pumed safle, ar drothwy lansiad y gyfres ddogfen Welcome to Wrexham sy'n olrhain penderfyniad y ddau actor i brynu'r clwb.